
Mae Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 yn sicrhau bod ystod eang o gwricwla lleol yn cael eu creu ar gyfer dysgwyr 14-19 oed yng Nghymru. Mae hefyd yn amlinellu hawl dysgwyr i ddilyn eu dewis gwrs astudio. Mae'r Mesur wedi bod yn cael ei weithredu gam wrth gam. Manylir ar y gofynion penodol yn Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) 2009 a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 2010.
Mae'n gwneud darpariaeth o ran sut i lunio'r cwricwlwm lleol, gan gynnwys pennu nifer ofynnol y cyrsiau astudio i'w cynnwys mewn cwricwlwm lleol. Mae hefyd yn nodi nifer ofynnol y cyrsiau astudio galwedigaethol i sicrhau bod cwricwla'r ardal leol yn cynnwys ystod eang o opsiynau astudio, boed yn academaidd neu'n alwedigaethol. Rhagor o wybodaeth am Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009.