
Mae Leighton Andrews y Gweinidog Addysg wedi croesawu £471,000 o Gronfa Swyddi’r Dyfodol i greu 71 o swyddi yng Nghymru. Ers i’r Gronfa ddechrau ym mis Gorffennaf 2009, mae’r cynllun wedi creu 4,300 o swyddi ac wedi denu £27 miliwn i Gymru. Mae ‘Cronfa Swyddi’r Dyfodol’ yn helpu i greu swyddi i bobl ifanc sydd wedi profi diweithdra hirdymor. Mae’r Gronfa’n cael ei rhedeg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, ac yn anelu at greu 150,000 o swyddi dros dro tan 2011.