
Mae Llywodraeth Cymru yn trefnu cyfres o gynadleddau ‘Codi Safonau Ysgolion’ ledled Cymru. Pwrpas y digwyddiadau hyn fydd i gyflwyno i ymarferwyr y cynnydd sydd wedi digwydd ers 2 Chwefror 2011 pan fu’r Gweinidog yn cyflwyno ei gynlluniau i Godi Safonau Ysgolion. Bydd y cyntaf yn y gyfres o ddigwyddiadau yn cymryd lle ar 8 Mawrth 2012 yng Nghanolfan y Cenhedloedd yng Nghaerdydd. Leighton Andrews, Gweinidog Addysg a Sgiliau fydd y prif siaradwr yn y digwyddiad yma. Bydd tair cynhadledd arall yn cymryd lle yn ystod mis Mawrth: 13 Mawrth, Parc y Scarlets; 15 Mawrth - Venue Cymru, Llandudno a’r 20 Mawrth – Prifysgol Morgannwg.
Byddwch cystal ag e-bostio i gofrestru’ch diddordeb mewn mynychu un o’r digwyddiadau.