
Heddiw, dywedodd Rhodri Morgan, y Prif Weinidog, fod dechrau'r Cyfnod Sylfaen yn ddiwrnod arbennig i blant yng Nghymru. Ar ymweliad ag Ysgol Gynradd Brynnau ym Mrynnau, ger Llanharan yn Rhondda Cynon Taf, gyda Jane Hutt, y Gweinidog dros Addysg, dywedodd y Prif Weinidog y byddai'r Cyfnod Sylfaen yn trawsnewid addysg y blynyddoedd cynnar yng Nghymru:
Bydd yn ein helpu i leihau tangyflawniad a diffyg hunan-barch ymysg ysgolion ysgol gynradd. Bydd yn helpu'r rheini sy'n cael trafferth darllen hyd yn oed ar ôl iddynt gyrraedd 10 ac 11 oed. Mae hyn wedi amharu ar addysg plant ers yn rhy hir.
Mae'r Cyfnod Sylfaen, sef cwricwlwm blaengar Cymru ar gyfer dysgu drwy chwarae, yn cael ei gyflwyno i blant 3 a 4 oed yn y flwyddyn academaidd hon, a bydd yn parhau tan 2011 pan fydd pob plentyn 3 i 7 oed yn elwa ar y cynllun dysgu newydd a chyffrous hwn.
Mae'r Cyfnod Sylfaen yn canolbwyntio ar addysg i blant drwy brofiad yn hytrach na gwersi mwy ffurfiol yn yr ystafell ddosbarth. Y bwriad yw bodloni anghenion datblygu pob plentyn er mwyn cyflwyno addysg fwy ffurfiol pan fydd y plentyn yn fwy parod.
Meddai'r Prif Weinidog:
Dywedodd Albert Einstein unwaith ‘Mae'n wyrth bod chwilfrydedd yn goroesi drwy addysg ffurfiol.’ Mae'r fenter chwyldroadol hon yn symud i ffwrdd o'r traddodiad ym Mhrydain dros 125 mlynedd o addysg "dysgu drwy ddysgu". Mae'n gam mawr i wlad fechan fel Cymru ei gymryd ar ei phen ei hun. Ond rwy'n credu y bydd mwy o wledydd yn ymuno â ni'n fuan.
Bydd y Cyfnod Sylfaen yn annog plant i ddysgu gan ddefnyddio'u dychymyg. Byddant yn dysgu am y byd o'u hamgylch drwy fynd ar wyliau gyda 'bagiau' cardfwrdd a phasport wedi'i gynllunio'u hunain. Mae hyn wedi datblygu drwy farn gref y bydd dysgu yn y ffordd gadarnhaol hon yn gwella hunan hyder plant, ac yn gwella'u sgiliau datblygu personol a chymdeithasol.
Meddai Jane Hutt:
Mae'r Cyfnod Sylfaen yn ffordd wahanol o ddysgu. Un o'r nodweddion allweddol yw defnyddio'r awyr agored i annog plant i ddysgu am gadwraeth a'r amgylchedd.
Rydym yn ffodus bod yr awyr agored yng Nghymru yn wych, felly bydd plant yn dysgu am yr amgylchedd, y tymhorau a'r tywydd drwy fynd i'r meysydd a choedwigoedd i chwilio am bryfed a bywyd gwyllt. Hefyd bydd y plant yn creu eu mannau dysgu awyr agored eu hunain drwy greu eu gerddi llysiau a'u gwelyau blodau eu hunain i droi'r buarth diflas a llwyd yn fannau chwarae cyffrous, fel glan y môr.
Rydym wedi tynnu ar yr arferion rhyngwladol gorau mewn gwledydd fel Denmarc,, Seland Newydd a'r Eidal, ac rydym o'r farn y bydd cyflwyno'r Cyfnod Sylfaen yn cyn ig manteision hir dymor am flynyddoedd i ddod.
Meddai Vanessa McCarthy, Pennaeth Ysgol Gynradd Brynnau:
Rwy'n credu y bydd y Cyfnod Sylfaen yn cael effaith gadarnhaol ar addysg, i'r perwyl ei fod yn annog athrawon i ddatblygu hyder yn eu sgiliau'u hunain fel arweinwyr dysgu, gan helpu i lywio'r plant drwy'u profiadau addysg cynnar mewn ffordd gyffrous.
Dolenni perthnasol
Cyfnod Sylfaen - Mae'r Cyfnod Sylfaen yn ffordd newydd o edrych ar addysg plant rhwng 3 a 7 oed.