
Enillodd 63 y cant o ddisgyblion 15 mlwydd oed y trothwy lefel 2, 2 pwynt canran yn uwch nag yn 2008/09. Roedd 1 y cant heb ennill unrhyw gymhwyster cydnabyddedig. Enillodd 95 y cant o’r disgyblion 17 mlwydd oed, a gofrestrwyd ar gyfer 2 Safon Uwch neu gyfwerth, y trothwy Lefel 3, 1 pwynt canran yn is nag yn 2008/09.