
Wrth i ddiwedd tymor a gwyliau’r haf agosáu, dyma gyfle amserol i’ch atgoffa am faterion sy’n ymwneud â phriodasau dan orfod a’r risg sy’n gysylltiedig â phlant na fydd yn dychwelyd i’r ysgol ar ôl toriad yr haf. Mae angen i ysgolion barhau i fod yn wyliadwrus o beryglon cudd priodas dan orfod. Mae canllawiau proffesiynol statudol ar gael i helpu i adnabod yr arwyddion a sut i ddelio ag achosion posibl Priodas dan Orfod.