
Mae’n nodi diben y Model a’r hyn sy’n ofynnol wrth baratoi ar gyfer Mesurau, Rheoliadau a Chyfarwyddiadau newydd sydd i fod yn eu lle erbyn 2010. Caiff Arweiniad Statudol ei greu ar yr adeg hon er mwyn cefnogi’r partneriaid i weithredu’r Model. Bydd hyn yn cynnwys arweiniad ar gomisiynu. Cynlluniwyd y canllaw hwn i roi gwybodaeth er mwyn paratoi ar gyfer y newidiadau angenrheidiol, ac o'r herwydd, efallai y bydd rhanddeiliaid yn dymuno ystyried gosod y sylfeini ar gyfer y newidiadau hyn ymhell o flaen llaw.