
Yr wythnos hon, bydd pob ysgol uwchradd yn derbyn cyflenwad o ‘Codi Safonau Ysgolion: Canllaw i rieni a gofalwyr’. Cafodd y canllawiau hyn eu llunio i helpu rhieni i ddeall y system fandio newydd a’r rhesymau dros ei chyflwyno. Rhaid i ysgolion uwchradd ddosbarthu taflenni i bob disgybl gael mynd â hwy adref cyn yr wythnos sy’n cychwyn 5 Rhagfyr, pan fydd yr wybodaeth bandio yn cael ei chyhoeddi. Nodwch ein bod wedi gallu dwyn ymlaen y dyddiad cyhoeddi o’r wythnos yn dechrau 12 Rhagfyr i’r wythnos sy’n dechrau 5 Rhagfyr. Mae’r canllawiau yn cyfeirio rhieni/gofalwyr at y dudalen www.cymru.gov.uk/hysbysysgolionirieni i gael rhagor o wybodaeth. Byddwn yn cysylltu ag ysgolion uwchradd i gael eu hadborth yn y flwyddyn newydd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost atom yn SSU@wales.gsi.gov.uk