
Mae’r llyfryn A5 defnyddiol yn rhoi gwybodaeth sylfaenol i ymarferwyr yng Nghymru ar gyngor, arweiniaid a chymorth cyllid, ynghyd â manylion cyswllt ar gyfer rhaglenni sydd ar gael ym maes addysg ryngwladol. Mae’r rhain yn cynnwys y rheini a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, y DU a’r UE, ynghyd â chymorth gan sefydliadau a mudiadau addysgol. Lluniwyd y canllaw gan NIACE DC ar y cyd ag Uned Addysg Ryngwladol Llywodraeth y Cynulliad mewn ymateb i anghenion ymarferwyr; cafodd ei ddosbarthu i bob sefydliad addysgol yng Nghymru yn gynharach y mis hwn.