
Heddiw [dydd Iau 16 Awst 2007], cyhoeddodd Jane Hutt, y Gweinidog Addysg, flwyddyn lwyddiannus ar gyfer myfyrwyr ac athrawon ledled Cymru wrth i gyfres arall o ganlyniadau lefel A ardderchog gael eu cyhoeddi. Mae'r canlyniadau a gyhoeddwyd heddiw yn dangos y canlynol ar gyfer myfyrwyr yng Nghymru:
Dywedodd y Gweinidog:
Mae myfyrwyr ledled Cymru yn dathlu canlyniadau ardderchog eleni. Mae eu gwaith caled wedi’i wobrwyo ynghyd â gwaith eu hathrawon a chefnogaeth eu rhieni.
Mae’r canlyniadau Lefel A heddiw yn benllanw ar ddwy flynedd o astudio ymroddedig, ac i lawer mae'n gychwyn ar gyfnod o astudio pellach mewn prifysgol, coleg neu ddysgu sy'n gysylltiedig â'r gwaith.
Ar gyfer nifer o fyfyrwyr AS, bydd y canlyniadau hyn hefyd yn sail i astudiaethau pellach ar gyfer Lefel A a chymwysterau uwch eraill y flwyddyn nesaf.
Beth bynnag sydd o flaen y bobl ifanc sy'n casglu eu canlyniadau heddiw, bydd y llwyddiant hwn o fantais iddynt yn y dyfodol.
Mae’n siwr y bydd rhai unwaith eto'n amau safon yr arholiadau Lefel A, gan honni mai arholiadau haws sy'n gyfrifol am y canlyniadau rhagorol hyn. Ond nid yw hynny'n wir ac ni ddylid caniatáu i agwedd o'r fath leihau ar lwyddiant unigolion heddiw.
Mae'r canlyniadau hyn yn adlewyrchu'r safonau rhagorol a welir gan Estyn, Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant Cymru, mewn dosbarthiadau chwech a cholegau chweched dosbarth.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn parhau i gefnogi gwaith caled pawb sy'n gysylltiedig ag addysg ôl 16 yng Nghymru. Mae'r canlyniadau hyn yn dangos blwyddyn arall o waith da ond nid ydym yn llaesu dwylo. Rydym yn canolbwyntio nawr ar adeiladu ar ein perfformiad uchel cyfredol er mwyn gwireddu ein gweledigaeth o Gymru fel Gwlad sy'n Dysgu.
http://new.wales.gov.uk/news/ThirdAssembly/Education/2007/1751926/?lang=cy