
Mae Cymru ar fin cynnal ymarferiad enfawr i gymryd stoc o'r sgiliau a'r wybodaeth sydd gan ei bobl heddiw a'r hyn fyddant angen ar gyfer y dyfodol.
Dros y tri mis nesaf bydd byddin o ymchwilwyr, yn cymryd rhan ym mhrosiect Sgiliau Dyfodol Cymru 2003, yn cerdded ar hyd lonydd fferm a rhodfeydd deiliog, yn ogystal ag ymweld â therasau, tai maestrefol a blociau fflatiau, i gyfweld â dim llai na 6,000 o bobl oedran gwaith yn eu cartrefi.
Byddir hefyd yn holi 6,000 o gyflogwyr am sgiliau presennol eu gweithluoedd a'r sgiliau sydd eu hangen i'w busnesau lwyddo a thyfu yn y blynyddoedd i ddod.
Bydd yr arolygwyr yn canolbwyntio yn neilltuol ar yr hyn a elwir yn "sgiliau generig", y sgiliau y medrir eu defnyddio mewn amrediad o wahanol swyddi. Mae'r rhain yn cynnwys sgiliau megis cyfathrebu, gweithio tîm, datrys problemau, technoleg gwybodaeth, rheolaeth ac arweinyddiaeth, entrepreneuriaeth a gofal cwsmeriaid - yn ogystal â'r gallu i drefnu eu dysgu eu hunain ac i gymryd yr awenau.
Byddant hefyd yn creu map manwl o'r cymwysterau sydd gan bobl.
Caiff arolwg 2003, a ran-gyllidir gan yr Undeb Ewropeaidd, ei arwain gan bartneriaeth eang ei sail yng Nghymru, yn cynnwys Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Cenedlaethol - ELWa, y WDA, y CBI, Gyrfa Cymru, Canolfan Byd Gwaith(y Gwasanaeth Cyflogaeth gynt) a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn cynrychioli cynghorau lleol.
Bydd yn casglu hyd yn oed yn fwy o wybodaeth fanwl nag a wnaeth arolwg cyntaf Sgiliau Dyfodol Cymru bum mlynedd yn ôl. Fe dorrodd yr astudiaeth honno dir a chafodd argraff sylweddol ar wneuthurwyr polisi yng Nghymru, gan ddylanwadu ar y math o hyfforddiant a chyngor sgiliau a roddir i bobl ledled y wlad ar hyn o bryd.
Croesawodd Jane Davidson, Gweinidog Addysg a Dysgu Gydol Oes, yr astudiaeth newydd a rhoddodd anogaeth i bawb y mae'r ymchwilwyr yn cysylltu â hwy i roi eu cydweithrediad llawn a gweithgar. Dywedodd: "Mae hwn yn ymarferiad hollbwysig oherwydd bydd yn rhoi'r ateb mwyaf cywir i ni eto o ba mor fedrus ydym fel cenedl a'r hyn sydd angen i ni wneud i wella a chystadlu.
“Mae'r data hwn yn rhoi'r arfau y mae ELWa, y WDA a sefydliadau allweddol eraill yn economi Cymru eu hangen i gynllunio ymlaen yn hyderus, gan wybod eu bod yn ateb i wir anghenion pobl a busnesau," ychwanegodd.
Caiff y bobl a'r cwmnïau i'w cyfweld gan MORI, yr ymchwilwyr blaenllaw, eu dewis yn ôl fformiwla a luniwyd ac a brofwyd yn ofalus, i sicrhau eu bod yn cynrychioli darlun cywir o Gymru.
Bydd ymchwilwyr yn holi am lefel bresennol sgiliau a chymwysterau pobl, natur eu swyddi a pha lefel o sgiliau generig y disgwyliant y byddant eu hangen yn y dyfodol. Ystyrir fod sicrhau fod pobl yng Nghymru yn caffael y lefel gywir yn y sgiliau hyn yn hollbwysig i lwyddiant yr economi a iechyd cymdeithas yng Nghymru yn y dyfodol.
Gan adeiladu ar yr arolwg diwethaf, bydd ymchwilwyr y tro hwn yn holi'n ddyfnach i lefel pob un o'r sgiliau sydd gan unigolion, neu y credant eu bod angen, er mwyn gwneud y swyddi maent eisiau eu gwneud.
Bydd y llwyth o ddata a gesglir dros y tri mis nesaf yn galluogi dadansoddwyr i gyfateb sgiliau presennol pobl a'u dyheadau dysgu gyda'r sgiliau y mae cyflogwyr yn dweud y byddant eu hangen i wneud swyddi'r dyfodol.
Bydd hyn yn amlygu unrhyw ddiffyg cyfatebiaeth rhwng y ddau fel y gall cynghorwyr a darparwyr addysg roi'r gefnogaeth i bobl i ennill y sgiliau fydd yn ateb eu dyheadau gyrfa.
Byddant hefyd yn holi pa lefel o gymwysterau sydd gan bobl, gan amrywio o NVQ i PhD. Bydd hyn yn rhoi arwydd clir o ba mor dda y mae poblogaeth a gweithlu Cymru wedi ei addysgu a'i hyfforddi mewn gwirionedd.
Bydd yr arolwg hefyd yn archwilio diweithdra a'r ffactor sgiliau isel, gan holi am y rhesymau pam fod pobl allan o waith a'r rhwystrau tybiedig i ennill mwy o sgiliau.
Dywedodd Jo McCallum, pennaeth Uned Sgiliau Dyfodol Cymru o fewn ELWa, sy'n rheoli'r prosiect enfawr: "Bu paratoi ar gyfer yr astudiaeth hon yn ymarferiad enfawr a gymerodd fisoedd lawer ond rydym yn awr yn barod i symud ymlaen. Yn seiliedig ar brofiad y gorffennol, disgwyliwn lawer o gydweithrediad gan y cyhoedd. Mae pobl yn gyffredinol yn ei gael yn ddiddorol iawn i aros a meddwl am faterion megis hwn sydd ag argraff fawr ar eu bywydau.
Esboniodd y byddai'r canlyniadau cyntaf yn hysbys o fewn yr ychydig fisoedd nesaf, er y byddai tua 18 mis cyn y cynhelid yr holl ddadansoddiad.
Nodyn i'r Golygydd - Sgiliau Dyfodol Cymru 2003
Mae tua 60 o bobl o bob rhan o'r wlad wedi cymryd rhan wrth drefnu prosiect Sgiliau Dyfodol Cymru a bydd bron i 100 o ymchwilwyr yn cymryd rhan yn yr arolwg cenedlaethol dros y tri mis nesaf.
Mae grwp llywio'r prosiect yn cynnwys sefydliadau busnes, undebau llafur, cyrff addysg a'r sector gwirfoddol yn ogystal â'r prif asiantaethau sector cyhoeddus sy'n cyllido'r ymarferiad.
Mae'r arolwg cartrefi yn seiliedig ar sampl o hap yn defnyddio fformiwla a gynlluniwyd i sicrhau ei fod yn cynrychioli poblogaeth Cymru yn gywir. Caiff o leiaf 200 o bobl eu cyfweld ym mhob un o'r 22 ardal awdurdod unedol yng Nghymru, gyda ffigur llawer iawn uwch yn yr ardaloedd mwy poblog.
Bydd nifer y busnesau yn amrywio yn ôl cyfansoddiad economaidd pob ardal, er y bydd y sampl yn rhoi croes-doriad cywir o ddiwydiant Cymru yn ei gyfanrwydd.
Er mwyn dadansoddi ymatebion pobl dan amrywiaeth eang o benawdau, gofynnir i ymatebwyr am natur eu swydd bresennol, lefel y sgiliau y maent eu hangen i wneud y gwaith, pa mor hir y bu'r swydd ganddynt a math a maint y cwmni y maent yn gweithio iddo.
Cânt eu holi am y cymwysterau sydd ganddynt, gan ddewis o blith rhestr o 26 o wahanol fathau, a gofynnir iddynt am asesiad o'r lefel a gawsant yn yr 18 "Sgil Generig" - sgiliau y medrir eu defnyddio mewn amrywiaeth o wahanol alwedigaethau.
Bydd pob un hefyd yn esbonio pa fath o sydd fyddent yn hoffi a dweud pa lefel sgiliau y credant y byddant angen i wneud y swydd a ddymunant. Fe'u gwahoddir hefyd i roi manylion am unrhyw hyfforddiant a gawsant a beth oedd canlyniadau'r hyfforddiant hwnnw. Gofynnir iddynt hefyd roi barn am safon sgiliau eu rheolydd.
Byddir yn holi cyflogwyr am y mathau o staff a gyflogant a manylion unrhyw anawsterau a gawsant yn cael hyd i bobl gyda'r sgiliau cywir neu swyddi a gawsant yn anodd eu llenwi. Gofynnir iddynt hefyd roi eu barn ar y rhesymau allweddol pam eu bod yn profi bylchau sgiliau neu brinder sgiliau ac i asesu effaith y problemau hyn ar eu busnesau.
Gwahoddir i bob cyflogydd i amlinellu eu hagwedd at fuddsoddi mewn dysgu a hyfforddiant a darogan lefel y sgiliau generig y byddant eu hangen yn y dyfodol.
Gwybodaeth bellach gan Eoghan Mortell 029 2048 8778 neu 07977 555116