
Y cwestiwn sy’n cael ei ofyn i filoedd o weithwyr Cymreig ar hyn o bryd yw pa mor dda yw eu penaethiaid yn eu swyddi ac a yw’r medrau ganddynt i gael y canlyniadau gorau o’u tîm mewn gwirionedd.
Gofynnir y cwestiwn hwn er mwyn canfod a yw rheolwyr Cymreig mor effeithiol ag y dylent fod neu pa hyfforddiant y mae arnynt ei angen er mwyn rhoi hwb i’w perfformiad yn y swyddfa, y siop neu’r ffatri.
Gofynnir i bobl a yw’n hawdd sgwrsio gyda’u pennaeth, a yw ef neu hi’n dda am ddirprwyo, rheoli pobl, trafod anghenion hyfforddi’r staff ac egluro i bobl beth a ddisgwylir ganddynt.
Bydd chwe mil o bobl yn cymryd rhan mewn cyfweliadau wyneb yn wyneb yn eu cartrefi ac ni ddatgelir pwy ydyn nhw. Mae’r ymchwilwyr yn gobeithio y bydd yr ymarfer hwn yn mynd at wraidd barn go iawn pobl am y rhai sy’n trefnu eu bywydau gwaith iddynt.
Gofynnir y cwestiwn fel rhan o arolwg manwl Sgiliau Dyfodol Cymru 2003 sy’n para tan ddiwedd Gorffennaf. Disgwylir i’r canlyniadau cyntaf gael eu cyhoeddi ym mis Hydref.
Cynhelir y prosiect i helpu clustnodi’r sgiliau sydd yna yng Nghymru heddiw, beth fydd ei angen yn y dyfodol a hefyd pa fedrau y mae pobl yn disgwyl y bydd eu hangen arnynt dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
Dyma’r tro cyntaf y gofynnwyd i weithwyr ystyried medrau eu penaethiaid yn ogystal â’u medrau eu hunain.
Bydd yr arolwg, sydd hefyd yn cynnwys 6,000 o gyflogwyr, yn canolbwyntio’n arbennig ar “fedrau generig” – y medrau cyffredinol hynny, fel llythrennedd, cyfathrebu, gweithio fel tîm neu arweinyddiaeth, y gellir eu defnyddio mewn sawl swydd wahanol.
Ystyrir bod presenoldeb neu absenoldeb y sgiliau hyn yn faromedr da o sefyllfa Cymru i fanteisio ar gyfleoedd economaidd newydd yn y dyfodol.
Arweinir y prosiect hwn, a ariennir gan Ewrop, gan bartneriaeth eang sy’n cynnwys Llywodraeth Cynulliad Cymru, y Cyngor Cenedlaethol – ELWa, y WDA, TUC, Gyrfa Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r Ganolfan Byd Gwaith.
Mae’r wybodaeth ynglΕ·n â barn pobl am eu penaethiaid yn cael ei chasglu ar adeg pan fo datblygu rheolaeth yn cael ei ystyried yn elfen gynyddol bwysig wrth greu economi llwyddiannus.
Yn ei Arolwg Tueddiadau Cyflogaeth diweddaraf, meddai CBI, y corff diwydiannol, “Erbyn hyn, mae cyflogwyr yn ystyried medrau rheoli yn brif ysgogydd mantais gystadleuol. Maent yn credu mai ansawdd yr arweinyddiaeth hon sy’n rhoi mantais iddynt dros eu cystadleuwyr.”
Dywedodd Jo McCallum, Rheolwr Ymchwil y Cyngor Cenedlaethol – ELWa a Rheolwr Sgiliau Dyfodol Cymru 2003, mai dyma’r tro cyntaf i farn pobl am eu rheolwyr a’u goruchwyliwyr gael ei gynnwys yn arolwg Sgiliau Dyfodol Cymru.
“Yr ofn yw, unwaith y mae pobl yn cael eu dyrchafu i swyddi rheoli, nad ydynt yn treulio amser yn dysgu am ddatblygiadau newydd mewn rheoli nac yn codi lefelau eu medrau eu hunain. Gall fod yn anodd asesu eich medrau eich hun, felly mae’n bwysig gofyn i’r staff am eu barn,” meddai.
“Nod yr astudiaeth hon yw datgelu sut mae’r gweithlu Cymreig yn teimlo am eu rheolwyr. Bydd yr holiadur cyfrinachol hwn yn rhoi cyfle prin i weithwyr asesu perfformiad eu pennaeth. Hyd yn hyn, rydym wedi gweld bod pobl yn rhoi ymatebion meddylgar ac adeiladol a ddylai roi gwybodaeth ddefnyddiol iawn i ni,” ychwanegodd.
Roedd Christopher Ward, Prif Weithredwr Cyngor Rheolaeth Cymru, sy’n hyrwyddo rheolaeth ac arweinyddiaeth well yng Nghymru, yn croesawu’r ymchwil.
“Er cystal rheolwr y credwn yr ydym, y prawf eithaf yw pa un a yw ein staff yn meddwl hynny hefyd. Er mwyn cael gwell rheolaeth yng Nghymru, mae angen i ni fod yn ymwybodol o’n sefyllfa heddiw, a bydd yr ymchwil hon yn rhoi dealltwriaeth werthfawr i ni.
“Rwy’n credu bod rheolwyr yng Nghymru yn cymryd eu rôl o ddifrif ac eisiau gwella eu perfformiad. Mae rheolwyr da yn arfarnu ac yn diweddaru eu medrau’n gyson ac yn ymdrechu tuag at arferion da eu sector diwydiant,” ychwanegodd.
Mae Datblygu Rheolaeth hefyd yn uchel ar yr agenda ar gyfer y Cyngor Cenedlaethol – ELWa, sy’n bwriadu helpu tua 2,500 o gwmnïau i wella medrau eu rheolwyr eleni yn unig.