
Ym mis Tachwedd, cafodd pob ysgol uwchradd gyflenwad o ‘Codi Safonau Ysgolion: Canllawiau i rieni a gofalwyr’ a oedd yn cynnwys gwybodaeth am y system bandio ysgolion. Mae’r Adran Addysg a Sgiliau yn gwerthfawrogi’ch barn, a byddem yn fawr ein diolch pe bai modd i chi roi ychydig funudau o’ch amser i ystyried y cwestiynau canlynol. 1) Pa mor fodlon oeddech chi â chynnwys y daflen? 2) A oedd y daflen o gymorth i chi gyfleu gwybodaeth am fandio ysgolion wrth rieni? 3) A gafwyd llawer o ddiddordeb gan rieni? A oeddynt yn gwerthfawrogi’r daflen? 4) Pa mor fodlon oeddech chi â’r modd y bu’r Adran yn cyfathrebu â chi ynghylch bandio ysgolion? 5)
Unrhyw sylwadau eraill? Anfonwch eich adborth mewn e-bost i Louise Massaro.