
Heddiw [3 Rhagfyr 2007], cafodd gwefan ryngweithiol newydd Arsyllfa Dysgu a Sgiliau Cymru ei lansio. Bydd y wefan yn gronfa ddata ar gyfer ymchwil a dadansoddi ym maes addysg, dysgu, sgiliau a gwybodaeth am y farchnad lafur yng Nghymru.
Bydd gan bobl sy'n mynd ar y wefan newydd www.arsyllfadysgu.com y cyfle i rannu gwybodaeth ac arfer gorau, a chymryd rhan mewn fforymau ar ddadansoddi polisi. Bydd modd i ddefnyddwyr gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwil a'r dadansoddi diweddaraf ym maes dysgu a sgiliau. Dyma'r unig gronfa ddata yng Nghymru sy'n cynnwys gwybodaeth am addysg pob oedran, o'r blynyddoedd cynnar i sgiliau a dysgu gydol oes.
Bydd 'Themâu Dysgu' rheolaidd yn cael eu rhoi ar wefan Arsyllfa Dysgu a Sgiliau Cymru er mwyn i ddefnyddwyr ystyried a chyfrannau at y sylfaen ymchwil a thystiolaeth ar faterion dysgu penodol yng Nghymru. Y thema gyntaf fydd Datblygu Sgiliau. Bydd modd i ddefnyddwyr drafod materion sy'n berthnasol i bolisi cenedlaethol neu ranbarthol a rhannu'u profiadau, eu gweithgareddau a'u pryderon.
Meddai John Griffiths, y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau: “Mae Arsyllfa Dysgu a Sgiliau Cymru yn rhoi cyfle gwirioneddol i bawb sydd â diddordeb yn yr agenda sgiliau i gymryd rhan, rhannu arfer gorau a chael gwybodaeth ac ymchwil eang am addysg a dysgu.
“Yr Arsyllfa oedd un o ymrwymiadau allweddol ein Cynllun Gweithredu Sgiliau a Chyflogaeth 2005 ac mae'n wych ei gweld yn cael ei rhoi ar waith heddiw. Mae sgiliau yn hanfodol i lwyddiant unigolion, busnesau, cymunedau a ffyniant economaidd y wlad. Bydd ein Strategaeth Sgiliau a Chyflogaeth yn hollbwysig o ran datblygu'r hyn wrth i ni geisio gwireddu'n huchelgais o greu system sgiliau eithriadol.”