
Y mae cyflogwyr yng Nghymru yn dweud eu bod hwy angen inni fod yn fwy medrus o ran deall anghenion cwsmeriaid, cyfathrebu, dangos menter a gweithio mewn tim. Y mae arnynt hefyd angen pobl a all ddilyn cyfarwyddiadau ond sy’n hyblyg pan fo angen.
Ac, yn anad dim arall, dros y tair blynedd nesaf, fe ddywed ein cyflogwyr eu bod hwy angen inni wella’n sgiliau gyda chyfrifiaduron a dod yn well gyda threfnu’n dysgu’n hunain.
Yr oedd y rhain ymysg y canfyddiadau a gyhoeddwyd heddiw (Hydref 23) a darddodd o’r arolwg mwyaf a mwyaf cynhwysfawr i’w gynnal hyd yn hyn o’r medrau y mae pobl Cymru ar hyn o bryd yn meddu arnynt ac y mae busnesau yn dweud y mae arnynt eu hangen, yn awr ac yn y dyfodol.
Fe gyfwelwyd â chyfanrif o 6,000 o unigolion a 6,000 o fusnesau mewn modd manwl iawn dros yr ychydig fisoedd diwethaf ar gyfer yr arolwg Cymru Sgiliau’r Dyfodol 2003 o sgiliau “cyffredinol”. Dyma’r medrau a’r priodoleddau cyffredinol y mae ar bobl eu hangen i weithio ledled ystod eang o alwedigaethau.
Y mae’r canlyniadau yn ffurfio’r rhan gyntaf o brosiect ymchwil sylweddol a wnâ ddarparu’r darlun mwyaf cyflawn o’r cyflenwad o sgiliau a’r galw am sgiliau a wnaed hyd yn hyn mewn unrhyw ran o Ewrop. Fe wnaeth Cymru arwain gyda’r adroddiad Sgiliau’r Dyfodol yn 1998, oedd yn torri cŵys newydd, ac ers hynny y mae rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig ac Ewrop wedi dilyn yr un llwybr.
Fe gafodd adroddiad arolwg 2003 ei lansio heddiw gan y Gweinidog Cyntaf, Rhodri Morgan, AC, mewn cynhadledd hynod o amlwg gan Sgiliau Cymru yng Nghasnewydd ble yr oedd pobl busnes profiadol ac uwch-gynrychiolwyr dysgu wedi ymgynnull i drafod sut y gall Cymru greu’r gweithlu cystadleuol y mae arni’i hangen ar gyfer y dyfodol.
Fe drefnwyd y prosiect gan bartneriaeth sylweddol sy’n cynnwys Llywodraeth Cynulliad Cymru, y Cyngor Cenedlaethol – DAC, Awdurdod Datblygu Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Asiantaeth Datblygu y Sector Sgiliau, Canolfan Byd Gwaith, a Gyrfa Cymru.
Fe fydd adroddiadau dilynol yn darogan pa fath o swyddi sy’n debygol o gael eu creu yng Nghymru dros y ddegawd nesaf gan ddangos i bobl pa fedrau sy’n debygol o fod yn fwyaf gwerthfawr iddynt fel y maent yn datblygu’u gyrfaoedd.
Y bwriad yw y bydd canfyddiadau o’r gwaith ymchwil yn cynorthwyo busnesau, cynllunwyr y sector cyhoeddus a’r sawl sy’n darparu addysg i sicrhau bod y boblogaeth Gymreig yn adeiladu’r sgiliau sydd eu hangen fwyaf er mwyn cael llewyrch yn y dyfodol. Fe wnaeth canlyniadau o’r arolwg diwethaf o’i fath yn 1998 arwain at greu rhychwant o gyrsiau hyfforddi newydd a dulliau newydd o gynghori pobl ynglÅ·n â chyfleoedd am yrfa.
Pan ofynnwyd iddynt pa sgiliau y credent sydd bwysicaf ledled pob un o’r galwedigaethau, fe roes cyflogwyr fel eu chwe uchaf: deall anghenion cwsmeriaid, cyfathrebu, y gallu i ddilyn cyfarwyddiadau, dangos menter, gweithio mewn tîm, a gallu addasu/hyblygrwydd.
Y meysydd ble y credent y byddai angen y cynnydd mwyaf o ran lefel sgiliau dros y tair blynedd nesaf yw Technoleg Gwybodaeth, sgiliau rheoli, trefnu’ch gwaith dysgu’ch hun a sgiliau arwain.
Fe wnaeth canlyniadau heddiw ddatgelu llawer o newyddion da i Gymru, ynghyd â rhychwant o anawsterau sylweddol ar gyfer unigolion a llunwyr polisïau.
Ar yr ochr gadarnhaol:
Fe ddatgelodd yr adroddiad lawer o heriadau ar gyfer Cymru, gan gynnwys canfyddiadau megis:
Yn ychwanegol at wybodaeth am sgiliau cyffredinol, y mae’r adroddiad newydd yn darogan pa fath o swyddi sy’n debygol o gynyddu o ran nifer dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Y mae’r rhain yn cynnwys swyddi ym maes iechyd, hamdden, y cyfryngau a diwylliant, gwasanaethau busnes a gweinyddiad cyhoeddus.
Yn yntau’n llefaru ar ran partneriaeth Cymru Sgiliau’r Dyfodol, fe ddywedodd Richard Keveren: "Fe rydd yr arolwg hwn wybodaeth eithriadol o werthfawr inni. O’i gymharu â’r rhagolygon swyddi sydd i’w gyhoeddi yn y man, fe rydd y darlun mwyaf cyflawn inni yr ydym erioed wedi’i gael am y ffordd y mae’r farchnad lafur yng Nghymru yn datblygu.
"Y mae gwybodaeth oddi wrth y prosiect olaf o du Cymru Sgiliau’r Dyfodol bum mlynedd yn ôl wedi bod o gymorth mawr gyda chynllunio’r math o waith dysgu yr ydym yn ei ddarparu yng Nghymru a gyda chynghori pobl ynglÅ·n â pha sgiliau fydd yn fwyaf gwerthfawr iddynt yn y farchnad swyddi. Gan adeiladu ar y profiad hynny, a chan gasglu gwybodaeth ychwanegol y tro hwn, yr ydym yn disgwyl elwa hyd yn oed yn fwy byth."
Fe gydnabu’r anawsterau sy’n wynebu Cymru, sy’n parhau gyda chyfran uwch na’r cyfartaledd o’i phobl yn ddi-gymhwyster. “Yr ydym hefyd yn wynebu’r her o ganfod ffyrdd o roi’r sgiliau cyffredinol i bobl ifanc yn y gyfundrefn addysg y mae cyflogwyr yn dweud y mae arnynt eu hangen fwyaf," yr ychwanegodd.
"Fodd bynnag, fe rydd yr adroddiad lawer o anogaeth inni. Y mae’r gostyngiad yn y canran o swyddi gweigion sy’n anodd i’w llenwi i’w briodoli, yn fy nhyb i, yn rhannol o leiaf i’r cynnydd a wnaed gyda datblygu medrau. Fe welwn hefyd agwedd gadarnhaol iawn tuag at ddysgu ledled y boblogaeth Gymreig.”