
Dywedodd Jo Corke o Sgiliau Dyfodol Cymru: “Mae’r arolwg yn rhoi’r wybodaeth fwyaf cyfredol y mae galw mawr amdani ymhlith diwydiannau allweddol yn y sector preifat i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Gyda’r ffigurau hyn, gall y Cynulliad a sefydliadau eraill sy’n gyfrifol am ddatblygu a chyflwyno darpariaeth ddysgu fodloni’r galw presennol yn fwy effeithlon ac ystyried ffyrdd o annog galw pellach yn y dyfodol.”
Rhwng mis Tachwedd 2004 a mis Ionawr 2005, gofynnwyd i 2,000 o fusnesau mewn saith sector yng Nghymru am y galw am staff â sgiliau Iaith Gymraeg. Comisiynwyd yr arolwg gan Bartneriaeth Sgiliau Dyfodol Cymru i ddarganfod lefel a natur yr angen ymhlith busnesau yn y sectorau twristiaeth, gwasanaethau cwsmeriaid, bwyd amaeth, gwasanaethau ariannol, gofal, adeiladu, cyfryngau ac adwerthu. Dangosodd yr arolwg bod gan bron un ym mhob deg o’r busnesau hyn alw am gyflogeion sy’n siarad Cymraeg ar hyn o bryd.
Er y dangoswyd mai’r rhain oedd y sectorau sydd fwyaf tebygol o ysgogi’r angen am gyflwyno cymwysterau galwedigaethol yn Gymraeg yn yr arolwg diwethaf a gynhaliwyd yn 2003, mae’r niferoedd sy’n nodi angen am staff gyda’r sgiliau hyn yn dal yn isel o’u cymharu â’r sector cyhoeddus.
Nododd yr arolwg fod cwmnïau sy’n defnyddio’r iaith Gymraeg mewn busnes yn gwneud hynny’n bennaf wrth ymateb i anghenion cwsmeriaid a bod y pwyslais ar siarad a gwrando yn hytrach na darllen ac ysgrifennu. Roedd yr arolwg hefyd yn dangos galw uwch ymhlith busnesau yn y sector cyfryngau gyda 18% o gyflogwyr yn galw am fwy o staff sy’n gallu gweithredu yn Gymraeg. Cofnododd y sector adwerthu'r lefel isaf o alw ymhlith busnesau yn yr arolwg, gyda 5% yn unig o ymatebwyr yn dweud bod angen yr iaith Gymraeg ar gyflogeion.
Roedd yr amrywiadau rhanbarthol hefyd fel y disgwyl, gyda busnesau yn y gogledd orllewin yn dangos y galw uchaf a’r rheiny yn y de ddwyrain yn llai tebygol o ofyn am staff â sgiliau iaith Gymraeg.
Dywedodd Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg:
“Mae’r arolwg hwn wedi rhoi cipolwg gwerthfawr ar yr hyn sydd wir ei eisiau ar fusnesau preifat mewn perthynas â sgiliau iaith Gymraeg. Mae hefyd yn dangos bod cynnig dewis iaith i gwsmeriaid bellach yn dod yn bwysig o fewn y sector preifat yn ogystal â’r sector cyhoeddus. Mae’n dweud wrthym fod angen i ni weithio mwy i wella ymwybyddiaeth ymhlith y sector preifat o ran manteision masnachol posibl yr iaith Gymraeg, yn enwedig o ran cadw cwsmeriaid a threiddiad marchnad newydd. O safbwynt hyfforddi, mae’r arolwg hefyd yn darparu tystiolaeth ar gyfer partneriaid allweddol fel darparwyr hyfforddiant unigol, a’r Cynghorau Sgiliau Sector, o’r angen am ddeunyddiau a chyfleoedd dysgu dwyieithog priodol.”