
Ym mis Medi 2011, cyhoeddwyd Adolygiad o Gymwysterau gan Ddirprwy Weinidog Sgiliau Llywodraeth Cymru. Bydd yr Adolygiad yn ystyried sut i sicrhau bod y system cymwysterau yng Nghymru yn cael ei deall a'i gwerthfawrogi, a'i bod yn bodloni anghenion pobl ifanc ac economi Cymru. Bydd rhan o'r adolygiad yn ystyried pa un a ddylid graddio Cymhwyster Bagloriaeth Cymru. I ddechrau, rhoddir ystyriaeth i egwyddor graddio.
Yn y cyd-destun hwn, fe'ch gwahoddir i lenwi arolwg byr. Nid yw wedi'i fwriadu i fod yn archwiliad manwl o ddulliau graddio. Gellir llenwi’r arolwg mewn ychydig funudau, ar-lein, a gellir cael gafael arno o wefan Llywodraeth Cymru ar 23 Tachwedd.