
Cyhoeddodd y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes (ar 30 Tachwedd) sut y byddai Cymru yn ymateb i benderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu ffioedd dysgu mewn sefydliadau addysg uwch yn Lloegr. Mae’r ymgynghoriad yn manylu ar y gwaith sydd ar y gweill ar hyn o bryd i weithredu’r model cyllido newydd ar gyfer ariannu addysg uwch a chyllid myfyrwyr yng Nghymru o 2012/2013 ymlaen.