
Mae'r ymgynghoriad hwn yn cyflwyno'r cynigion ar gyfer datblygu'r ddarpariaeth ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned yn strategol.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am gynigion ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned. Maent yn cynnwys cyflwyno dull newydd o gynllunio, comisiynu a chyflenwi'r ddarpariaeth yn y maes hwn, ynghyd â fframwaith mwy cydlynol ar gyfer datblygu ansawdd.
Bydd y cyfnod ymgynghori yn parhau am gyfnod o 12 wythnos, a daw i ben ar 31 Rhagfyr 2008.
Dylai'r ymgyngoreion ddefnyddio'r ffurflen a ddarparwyd. Gallwch anfon eich ffurflenni ymateb drwy'r e-bost at learning.policy@wales.gsi.gov.uk. Fel arall, gallwch anfon copi o'r ffurflen drwy'r post at:
Y Tîm Polisi Dysgu
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Ty'r Afon, Heol Bedwas
Bedwas
Caerffili
CF83 8WT
Ffôn: 01443 6636663
Ffacs: 01443 663653
Dull newydd o gyflwyno Dysgu Oedolion yn y Gymuned