
Mae adroddiad diweddar yn anfon neges gadarnhaol iawn i bobl ifanc ynglŷn â gwerth hirdymor cymwysterau galwedigaethol fel NVQ, BTEC a City & Guilds, yn ogystal â manteision dilyn prentisiaethau. Mae'r adroddiad yn dangos yr effaith gadarnhaol y mae'r rhan fwyaf o gymwysterau galwedigaethol yn ei gael ar gyflogaeth a chyflogau, gan adlewyrchu canfyddiadau ymchwil blaenorol.