
Mae Llywodraeth Cymru yn dymuno ehangu ac ymestyn y defnydd o wybodaeth ar y farchnad lafur ledled Cymru. Mae hyn yn un o gyfres reolaidd o erthyglau fydd yn ymddangos yng nghylchlythyr DYSG ac ar wefan yr Arsyllfa Dysgu a Sgiliau – http://www.learningobservatory.com
Mae adroddiad diweddar yn anfon neges gadarnhaol iawn i bobl ifanc ynglŷn â gwerth hirdymor cymwysterau galwedigaethol fel NVQ, BTEC a City & Guilds, yn ogystal â manteision dilyn prentisiaethau. Mae’r adroddiad yn dangos yr effaith gadarnhaol y mae’r rhan fwyaf o gymwysterau galwedigaethol yn ei gael ar gyflogaeth a chyflogau, gan adlewyrchu canfyddiadau ymchwil blaenorol.
Yn unol ag astudiaethau blaenorol, mae’r adroddiad, a fu’n dadansoddi ystod eang o ddata i ddarparu canlyniadau sy’n eithriadol o rymus, yn dangos fod yna o hyd fanteision mawr ac arwyddocaol i’w cael yn sgil y mwyafrif helaeth o gymwysterau galwedigaethol.
Darganfu’r astudiaeth fod ennill cymhwyster Lefel 1 yn ychwanegu tua 3% y flwyddyn at enillion yn y saith mlynedd ar ôl cwblhau’r cymhwyster. Mae’r fantais yn sgil Lefel 2 NVQ yn uwch sef tua 5% yn syth ar ôl ei gwblhau, gan godi i 14% ar ôl 7 mlynedd, er bod y manteisio yn sgil NVQ yn amrywio’n sylweddol yn ôl y sector.
Mae nifer o gymwysterau yn cynnig manteision yn syth ac yn barhaol. Er enghraifft, mae cymwysterau Lefel 3 City & Guilds yn cael eu cysylltu gyda chodiadau mewn enillion o rhwng 5% a 7% y flwyddyn. Yn wahanol i hynny, mae cymwysterau Lefel 3 NVQ yn cael eu cysylltu gyda gostyngiad bach mewn enillion yn y tair blynedd gyntaf ar ôl cwblhau’r cymhwyster. Fodd bynnag, mae cynnydd mewn enillion yn cael ei weld yn y bedwaredd flwyddyn ac yn codi i fwy na 14% ar ôl saith mlynedd.
Mae effaith addysg a hyfforddiant ar lwyddo i gael swydd hefyd yn cael ei ddynodi’n glir gyda phob cymhwyster galwedigaethol yn cael eu cysylltu gyda chynnydd yn y gobaith o gael cyflogaeth.
Mae’r rhai sy’n ennill cymwysterau Lefel 1 neu Lefel 2 yn derbyn hwb yn syth ac yn barhaol i’w cyflogaeth; tra bod y rhai sy’n cwblhau Lefel 2 NVQ yn perfformio’n well na’r cyfartaledd gyda mwy na 4% yn elwa’n syth ar ôl cymhwyso, sy’n codi i fwy na 8% ymhen saith mlynedd.
Er bod yr effaith gyntaf yn negyddol, y rhai sy’n cwblhau Lefel 2 BTEC sy’n cael y fantais hirdymor fwyaf o ran cyflogaeth sef bron 9% ar ol saith mlynedd, tra bod y rhai sy’n ennill City & Guilds yn perfformio ychydig yn uwch na’r cyfartaledd gyda hwb o 3% o ran cyflogaeth yn codi i bron 6% ymhen saith mlynedd.
Dangosodd yr adroddiad hefyd fod y rhai sy’n cwblhau cymwysterau ar bob lefel yn llai tebygol o fod yn ddibynnol ar fudd-daliadau fel Lwfans Ceiswyr Gwaith neu Fudd-dal Analluogrwydd.
Cafodd effaith dilyn a chwblhau prentisiaeth hefyd ei archwilio. Mae’r effaith ar enillion yn y flwyddyn gyntaf ar ol cwblhau Prentisiaeth Sylfaenol yn fwy na 24% o’i gymharu â rhai sydd ddim yn cwblhau’r brentisiaeth. Mae’r fantais mewn enillion yn sgil ennill Prentisiaeth Uwch yn fwy na 25% o gymharu â rhai na wnaeth gwblhau.
Mae’r adroddiad yn dangos yn glir fod yna gysylltiad arwyddocaol rhwng cymwysterau galwedigaethol a chyflogaeth a’r potensial i ennill cyflog – negeseuon hynod gadarnhaol ar gyfer pobl ifanc a’u cynghorwyr gyrfaoedd.
Cynhyrchwyd yr adroddiad gan yr Adran Fusnes, Arloesedd a Sgiliau ac mae ar gael yn:
http://www.bis.gov.uk/assets/biscore/further-education-skills/docs/l/11-1035-long-term-effect-of-vocational-qualifications.pdf
Os oes gennych unrhyw sylwadau am y mathau o wybodaeth ar y farchnad lafur sydd yn ddefnyddiol i chi yn eich gwaith a sut y bu o fudd i chi, byddem yn falch clywed gennych. Ar gyfer hyn a mwy o fanylion am y prosiect Gwybodaeth ar y Farchnad Lafur cysylltwch â Rachel Stephens, Uwch Reolwr Polisi Sgiliau Llywodraeth Cymru yn rachel.stephens2@wales.gsi.gov.uk