
Mae AdAS wedi ymrwymo i ragori wrth gyfathrebu ac ymgysylltu â chi.
Yn sgil derbyn canlyniadau Arolwg Rhanddeiliaid 2010, rydym wedi paratoi ffurflen adborth gryno i ymchwilio ymhellach i’r hyn yr ydych chi’n ystyried yw cryfderau a gwendidau’r Adran. Rydym am wybod yn benodol a ydy’r canfyddiadau yn amrywio ar draws y sectorau, er mwyn i ni allu nodi unrhyw welliannau sydd angen i ni eu gwneud, a mynd i’r afael â’r gwelliannau hynny yn effeithiol.