
Mae Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg, wedi cyhoeddi adolygiad annibynnol pwysig o'r modd y caiff cyllid ar gyfer addysg yng Nghymru ei ddyrannu i ysgolion, colegau a phrifysgolion. Dywedodd y Gweinidog: "Mae angen i ni sicrhau bod ein harian yn cyrraedd y gwasanaethau rheng flaen."
Ymrwymodd Prif Weinidog Cymru yn ei faniffesto i ailffocysu’r arian a fuddsoddir mewn addysg. Mae'r Gweinidog Addysg wedi addo rhoi blaenoriaeth i'r ymrwymiad hwn, a bydd yr adolygiad yn symud yr agenda bwysig hon yn ei blaen. Cynhelir yr adolygiad mewn dau gam gan ymgynghorwyr allanol sydd â phrofiad ac arbenigedd yn y maes hwn er mwyn sicrhau gwrthrychedd a bod yn ddiduedd. Disgwylir i'r adolygiad ddechrau ym mis Chwefror. Proses fewnol fydd y cam cyntaf i edrych ar y gost o weinyddu addysg yng Nghymru, gan ddefnyddio gwybodaeth a gasglwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.