
Heddiw [dydd Mawrth, 11 Rhagfyr], mae John Griffiths, y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, wedi croesawu adolygiad annibynnol Syr Adrian Webb o Addysg Bellach (AB) yng Nghymru. Nodwyd yr angen am adolygiad yn Y Wlad Sy’n Dysgu: Gweledigaeth ar Waith, ac fe’i comisiynwyd i ystyried y ddarpariaeth AB ôl-14 yng Nghymru a sut y gellir ei datblygu mewn ffordd well yn y dyfodol.
Roedd yr adolygiad nid yn unig yn dadansoddi Sefydliadau AB, ond hefyd yn ystyried datblygiadau ym maes addysg 14-19; yr ymateb i anghenion cyflogwyr a’r economi o ran sgiliau; dysgu ymhlith oedolion, cyfiawnder cymdeithasol ac ymgysylltiad â’r gymuned.
Mae’r adolygiad wedi’i gynnal gan banel annibynnol o dri arbenigwr gan ddefnyddio cymorth pellach grŵp cyfeirio ehangach sydd ag arbenigedd mewn ysgolion, AB, cyflogaeth, sgiliau ac addysg uwch. Cadeiriwyd y panel adolygu gan Syr Adrian Webb, a Sheila Drury OBS a Gary Griffiths oedd y lleill.
Bwriedir i waith yr Adolygiad gysylltu â’r Strategaeth Sgiliau a Chyflogaeth arfaethedig a gyhoeddir ar gyfer ymgynghoriad ym mis Ionawr 2008.
Dywedodd John Griffiths:
Rwy eisiau sicrhau bod darpariaeth addysgol Cymru yn diwallu anghenion ei phobl a’i heconomi nawr ac yn y dyfodol. Mae hyn yn ganolog i amcanion Llywodraeth Cynulliad Cymru ac mae’n un o ymrwymiadau sylweddol Cymru’n Un.
Hoffwn ddiolch i Syr Adrian Webb ac aelodau eraill y panel am eu gwaith yn cynnal yr Adolygiad ac rwy’n edrych ymlaen at ystyried eu casgliadau ac at weld lle y gallwn weithredu arnynt yn ymarferol.
http://new.wales.gov.uk/news/presreleasearchive/1852926/?lang=cy