
Ar 16 Gorffennaf, anfonodd y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes lythyr at benaethiaid sefydliadau a chyrff sy'n cynrychioli'r sector,fel cam dilynol i adroddiad PricewaterhouseCoopers, 'Adolygiad o’r gost o weinyddu’r system addysg yng Nghymru - Cam 1'. Mae Cam 2 , sef y cam gweithredu, wedi dechrau. Roedd y llythyr yn gosod her i'r cyrff hyn i esbonio sut y bydden nhw, yn unigol ac ar y cyd, yn ymateb i'r rhagdybiaethau yn yr adroddiad. Gofynnwyd am ymatebion erbyn 20 Medi. Mwy o wybodaeth ar yr adolygiad, ac ymatebewch i’r her.