
Methwyd 9.0 y cant o sesiynau (hanner diwrnod) drwy absenoldeb gydag awdurdod a heb awdurdod, dim gostyngiad o 2007/08. Methwyd 1.7 y cant o sesiynau (hanner diwrnod) drwy absenoldeb heb awdurdod, gostyngiad o'r 1.8 y cant yn 2007/08. Roedd gan ferched gyfradd uwch o absenoliaeth mewn cyfanswm, ond roedd gan y ddau ryw'r un gyfradd o absenoliaeth heb awdurdod. Roedd ychydig dros i 7,000 o ddisgyblion (4.0 y cant) heb unrhyw absenoldeb o ysgolion uwchradd a gynhelir.