
Yn 2008/09, methwyd 6.8 y cant o sesiynau (hanner diwrnod) drwy absenoldeb gydag awdurdod a heb awdurdod, cynnydd o'r 6.7 y cant yn 2007/08. Mae’r gyfradd absenoldeb gyda neu heb awdurdod yr un faint ar gyfer bechgyn a merched. Roedd ychydig dan 5,500 o ddisgyblion (2.8 y cant) heb absenoldeb o ysgolion yn 208/09. Roedd ychydig dros i bumed o’r disgyblion yn gyfrifol am tua hanner cyfanswm y sesiynau o absenoldeb.