
Rydyn ni’n galw ar bobl ifanc yng Nghymru sydd rhwng 14 a 18 oed i wneud cais i fod yn Hyrwyddwr Newid Hinsawdd heddiw! Bydd pob Hyrwyddwr yn llefarydd ar y newid yn yr hinsawdd yng Nghymru, gan ddangos i bobl yn ei ardal a ledled Cymru sut y gall pawb leihau eu hôl troed carbon. Mae’n brofiad hynod werthfawr ar gyfer yr Hyrwyddwyr a’u hysgolion. Bydd y gystadleuaeth yn cau ddydd Gwener 19 Tachwedd.