
Cyhoeddodd Leighton Andrews, y Gweinidog dros Addysg, becyn ariannu o dros £49 miliwn i helpu pobl ifanc ymuno â'r byd gwaith a'r byd addysg. Wrth annerch yr uwchgynhadledd economaidd gyntaf yn 2010, meddai'r Gweinidog: "Mae'n hollbwysig ein bod ni'n sicrhau bod pob person ifanc rhwng 16 a 24 oed yn cael cyfle gwirioneddol i gael swydd, hyfforddiant neu addysg go iawn.