
Cyhoeddodd Carwyn Jones, y Prif Weinidog, fod dros 4,000 o bobl ifanc ledled y Gogledd-orllewin sydd mewn perygl o adael yr ysgol neu addysg bellach yn mynd i fod ar eu hennill yn sgil cynllun newydd gwerth £15 miliwn a fydd yn rhoi mwy o gyfle iddynt lwyddo.