
Ysgol Gynradd Baden Powell yn Nhremorfa yw’r 1000fed ysgol i gymryd rhan yng nghynllun Brecwast am Ddim Llywodraeth Cynulliad Cymru. Ymunodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru a Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg â disgyblion yr ysgol yn eu clwb brecwast i weld sut y maent yn elwa ar y cynllun ac yn mwynhau dechrau iach i’w diwrnod. Datganiad i’r wasg