Hafan
/ Newyddion / 10 Rhacamcaniad allweddol fydd yn siapio'r gweithle yn 2012 a thu hwnt
10 Rhacamcaniad allweddol fydd yn siapio'r gweithle yn 2012 a thu hwnt
09.01.12
Mae Llywodraeth Cymru'n dymuno ehangu ac ymestyn y defnydd o Wybodaeth ar y Farchnad Lafur ledled Cymru. Mae hyn yn un o gyfres o erthyglau fydd yn ymddangos yng nghylchlythyr DYSG ar wefan yr Arsyllfa Dysgu a Sgiliau.
Mae'n wych aros ar ben y tueddiadau economaidd diweddaraf, ond hyd yn oed yn well i fod ar y blaen iddynt a gweld i ble mae'r farchnad lafur yn mynd, nid dim ond ble mae hi heddiw. Mae Working Futures 2010 - 2020 yn gwneud yn union hynny. Y pedwerydd mewn cyfres o asesiadau'r farchnad lafur a gynhaliwyd gan Gomisiwn Cyflogaeth a Sgiliau'r Deyrnas Unedig (UKCES), mae'r astudiaeth ddiweddaraf yma'n canolbwyntio ar orwel deng mlynedd, gan roi darlun o'r farchnad lafur ar gyfer 2020.
Sut olwg fydd ar y farchnad lafur yn 2020? Pa sectorau y disgwylir iddynt dyfu? Lle mae'r rhagolygon cyflogaeth gorau?
Dyma 10 rhagamcaniad allweddol o'r adroddiad i'ch cael i feddwl.
- Rhagamcanir y bydd cyfradd twf economaidd Cymru yn y degawd nesaf yn 2.2% y flwyddyn. Er bod hyn yn is na chyfartaledd y Deyrnas Unedig, mae'n fwy na dwbl y gyfradd twf rhwng 2000 a 2010.
- Disgwylir y bydd cyflogaeth yng Nghymru yn tyfu gan 0.5% y flwyddyn, yn unol gyda ffigurau ar gyfer y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn uwch na'r Alban a sawl rhanbarth arall yn y Deyrnas Unedig. Rhagamcanir y bydd diweithdra ledled Cymru yn gostwng gan 0.7% ( i 8.3%).
- Ar lefel y Deyrnas Unedig, disgwylir y bydd cyflogaeth yn tyfu'n bennaf ymhlith menywod. Yng Nghymru, fodd bynnag, rhagamcanir y bydd cyflogaeth dynion yn cynyddu gan gyfran uwch na chyflogaeth menywod.
- Ar draws y Deyrnas Unedig, mae tueddiad i ffwrdd o gyflogaeth lawn-amser i waith rhan-amser, er y dylai llawer mwy o gyflogeion fod yn gweithio’n llawn-amser erbyn 2010.
- O'r rhai mewn cyflogaeth lawn, roedd cyfran hunangyflogaeth yng Nghymru yn uwch na chyfartaledd y Deyrnas Unedig yn 2010 a rhagamcanir y bydd yn aros yr un fath hyd 2020.
- Disgwylir twf economaidd ar draws pob un o'r chwe sector eang diwydiant yng Nghymru, gyda'r twf mwyaf mewn busnes a gwasanaethau eraill.
- Disgwylir y bydd twf cyflogaeth yng Nghymru yn uwch na chyfartaledd y Deyrnas Unedig ar gyfer y sector sylfaenol (sy'n cynnwys amaethyddiaeth, mwyngloddio a chwareli) a chyfleustodau, adeiladu a masnach, llety a thrafnidiaeth. Rhagamcanir y bydd cyflogaeth mewn gweithgynhyrchu yn gostwng yng Nghymru, er y dylai'r gostyngiad hwn fod yn llai amlwg nag yn y degawd blaenorol.
- Disgwylir y bydd swyddi crefftau medrus yn cynyddu yng Nghymru, tra'n gostwng mewn mannau eraill a disgwylir hefyd y bydd galwedigaethau crefft uchel yn cynyddu gyda rheolwyr ac uwch swyddogion yn ennill mwyaf.
- Yng Nghymru, disgwylir y bydd cynnydd mewn cyflogaeth yn y sector adeiladu er budd dynion, tra disgwylir i fenywod wneud yn dda yn y sectorau masnach, llety a thrafnidiaeth.
- Yn nhermau cymwysterau, dylai'r gyfran o'r rhai a gyflogir yng Nghymru heb unrhyw gymwysterau disgynn, tra dylid gweld cynnydd sylweddol yn y gyfran gyda QCF lefelau 7-8¹. Erbyn 2020, bydd Cymru'n dal i fod yn is na chyfartaledd y Deyrnas Unedig.
Efallai nad ydym yn medru rhagweld y dyfodol yn fanwl na gyda sicrwydd, ond medrwn ddefnyddio'r tueddiadau hyn fel patrymau i baratoi a chynllunio. Edrychwch yn ddyfnach yn yr adroddiad i gael dadansoddiad manylach a pharatoi am yr hyn sydd i ddod.
Os oes gennych unrhyw sylwadau am y mathau o Wybodaeth ar y Farchnad Lafur sy'n werthfawr i chi yn eich gwaith a sut y bu gwybodaeth ar y farchnad lafur o fudd i chi, hoffem glywed gennych. Ar gyfer hyn a gwybodaeth bellach am y prosiect Gwybodaeth ar y Farchnad Lafur, cysylltwch â Rachel Stephens, Uwch Reolwr Polisi Sgiliau Llywodraeth Cymru yn rachel.stephens2@wales.gsi.gov.uk.
¹cyfwerth â lefel ôl-radd
< nôl