
Mae Academi Wyddoniaeth Genedlaethol wedi'i sefydlu yng Nghymru i helpu i ddatblygu economi gryfach, fwy cynaliadwy a chadarn at y dyfodol.
Bydd yr Academi yn hybu'r diddordeb mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg – y pynciau STEM – ar bob lefel i sicrhau bod gan Gymru lif parhaus o bobl sy'n graddio o golegau a phrifysgolion, gyda'r cymwysterau a'r sgiliau priodol.
Mae'r Arsyllfa Dysgu a Sgiliau yn cynnwys dolenni i'r ffynonellau gwybodaeth a mentrau amrywiol Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) sydd ar gael yng Nghymru. Wrth ddewis y gynulleidfa sydd fwyaf addas i chi, cewch weld dolenni sy'n arwain at wefannau perthnasol i'ch anghenion.
Cydnabyddwn nad yw'r rhestr hon yn cynnwys holl weithgareddau'r rhaglen Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) a gynhelir yng Nghymru. Os hoffech gynnwys eich gweithgaredd chi, cysylltwch â ni. Nid yw Llywodraeth Cymru na'r Arsyllfa Dysgu a Sgiliau'n derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys unrhyw wefannau cysylltiedig.