
Crynodeb yw'r Adroddiad Canlyniadau Dysgwyr o'r cyfraddau llwyddiant a gyflawnwyd gan ddysgwyr ym mhob sefydliad addysg bellach yng Nghymru. O 2011 ymlaen, byddwn yn cyhoeddi'r adroddiadau hyn bob blwyddyn i roi gwybod i ddysgwyr, cyflogwyr, rhieni a'r cyhoedd yn gyffredinol am ganlyniadau addysg bellach a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r adroddiadau yn dangos gwybodaeth am y cyfraddau llwyddiant yn ôl lliw - sef canran yr holl gymwysterau a enillwyd gan ddysgwyr - am y tair blynedd flaenorol.
Gallwch lawrlwytho cyfres o ganllawiau sy'n esbonio cynnwys yr adroddiadau'n fanylach.
I weld Adroddiad Canlyniadau Dysgwyr ar gyfer sefydliad unigol, cliciwch ar enw'r sefydliad yn y gwymplen (Saesneg yn unig).