
Gan adeiladu ar yr ymrwymiad ym Maniffesto Cymru’n Un i ddiwygio’r trefniadau ariannu ar gyfer ysgolion ac addysg bellach, gwnaeth Sgiliau Sy’n Gweithio i Gymru: Cynllun Gweithredu a Strategaeth Sgiliau a Chyflogaeth bennu’r nod o sefydlu system sgiliau sy’n fwy ymatebol ac yn ymateb i’r galw. Ar ddiwedd 2009, cynhaliwyd ymarfer ymgynghori er mwyn diwygio’r system ariannu. Mwy
Tynnodd yr ymgynghoriad sylw at gynigion Llywodraeth Cynulliad Cymru i gael polisi ffioedd ar gyfer addysg a hyfforddiant ôl-16 (ac eithrio Addysg Uwch) ac Arian Blaenoriaethau Sector fel y nodwyd yn y strategaeth Sgiliau Sy’n Gweithio i Gymru ym mis Gorffennaf 2008. Yr oedd yr ymgynghoriad hefyd yn cynnig nifer o newidiadau cysylltiedig i gymorth i fyfyrwyr, gan gynnwys opsiynau ar gyfer dyfodol y Cyfrifon Dysgu Unigol (Cymru) a newidiadau i Lwfansau Cynhaliaeth Addysg. Mae cynigion y Cynulliad o ran diwygio’r trefniadau ariannu ar gyfer addysg ôl-16 a’r cymorth ariannol cysylltiedig i ddysgwyr yn troi’r strategaeth honno yn gynigion cadarn. Mae’r adroddiad ar yr ymarfer ymgynghori i’w weld. Mwy