
Mae’r Pecyn Cynllunio a Gwybodaeth hwn ar gyfer y Farchnad Lafur wedi’i ddylunio i ddiwallu anghenion darparwyr dysgu ôl-16, yn ogystal â rhanddeiliaid eraill yn Llywodraeth y Cynulliad. Mae’r pecyn yn cynnwys:
Mae’r pecyn cymorth ar-lein hwn yn disodli’r Asesiad Cenedlaethol Dysgu a Sgiliau a’r adroddiadau cysylltiedig ar ddysgu a’r farchnad lafur a gyhoeddwyd gan AdAS yn y gorffennol.
Mae’r pecyn wedi’i rannu’n dair rhan ryngweithiol:
Cyfres o adroddiadau ar we StatsCymru yw LMI. Mae’r adroddiadau hyn yn rhoi crynodebau rhyngweithiol a chyfredol o Wybodaeth am y Farchnad Lafur (LMI) ar lefel genedlaethol, awdurdod lleol ac AdAS. Mae’r LMI yn cael ei diweddaru’n awtomatig wrth i’r data gael ei ddiweddaru ar wefan StatsCymru gan Gyfarwyddiaeth Ystadegol Llywodraeth Cynulliad Cymru. Felly gall defnyddwyr fod yn sicr mai’r ystadegau diweddaraf yw ystadegau’r LMI, a’u bod wedi’u cynhyrchu yn unol â safonau proffesiynol uchel y Cod Ymarfer ar Ystadegau Gwladol.
Trwy glicio ar y map perthnasol ar gyfer ardal benodol, gall defnyddwyr gael hyd i ddata ar ddemograffeg, sgiliau, hyfforddiant, addysg, economeg a’r gweithlu. Mae’r data hwn yn cael ei gynhyrchu ar ffurf siartiau neu dablau byr. Trwy glicio ar y dolenni, gall defnyddwyr hefyd gael data ar ffurf taenlenni ar wefan StatsCymru. Fel y nodir uchod, mae’r LMI wedi’i rhannu’n haenau data ar lefel genedlaethol, rhanbarthol ac awdurdod lleol. Mae’n bosibl symud rhwng yr haenau hyn trwy glicio ar y ddolen berthnasol ar ben y dudalen.
Mae'r Canllawiau hyn ar Gynllunio a Gwybodaeth am y Farchnad Lafur wrthi'n cael eu datblygu ar hyn o bryd. Rydym yn croesawu eich sylwadau. Gallwch eu he-bostio atom yn: Skills That Work For Wales@wales.gsi.gov.uk