
Achredu yw’r broses lle bydd corff awdurdodedig yn cymeradwyo cwrs addysg uwch.
Addysg gyffredinol ac addysg alwedigaethol i ddysgwyr 16 oed a throsodd, ac eithrio’r rhai sy’n dilyn cyrsiau Addysg Uwch. Caiff ei alw’n aml yn addysg ôl-16 neu ddysgu ôl-16.
Adran Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am bolisi cyflogaeth.
Accreditation is the approval of a higher education course by an authorized body.
Mae cyrsiau addysg uwch yn rhaglenni sy’n arwain at gymwysterau neu gredydau y gellir eu cyfrif tuag at gymwysterau sydd uwchlaw Safon Uwch Tystysgrif Addysg Gyffredinol (TAG) neu gymwysterau Lefel 3 eraill. Maent yn cynnwys cyrsiau gradd, cyrsiau ôl-radd Diplomâu Cenedlaethol Uwch. Mae addysg uwch
yn cael ei chynnig mewn prifysgolion a cholegau addysg uwch ac mewn rhai colegau addysg bellach.
Lle bo pobl, grwpiau neu gymunedau yn dioddef o amddifadedd lluosog oherwydd, o bosib, incwm isel, diweithdra neu anweithgarwch, cyraeddiadau addysgol a phresenoldeb isel, afiechyd, tai o safon isel ac
oherwydd eu bod yn gorfforol ynysig.
Term eang i ddisgrifio ystod y gwahaniaethau gweladwy ac anweladwy rhwng pobl a sefydliadau. Gall olygu’r amrywiaeth o ddysgwyr o wahanol gefndiroedd y bydd angen sicrhau ffyrdd gwahanol o’u derbyn ar gyrsiau a sesiynau hyfforddi. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio’r amrywiaeth o ddarpariaeth sydd ar gael yn y sector addysg uwch a’r gwahanol fathau o sefydliad sy’n eu darparu.
Pobl nad ydynt yn gyflogedig nac yn chwilio am waith. Gall rhai pobl economaidd anweithgar fod yn fyfyrwyr, gofalwyr neu bobl sy’n dioddef o salwch hirdymor. Fodd bynnag, mae anweithgarwch economaidd hefyd i’w weld ymhlith pobl isel eu sgiliau a phobl hyn.
Y dosbarthiad Ewropeaidd ar gyfer rhanbarthau. Mae NUTS3 yn cyfeirio at lefel Sirol neu Awdurdod Unedol neu gyfuniad o Awdurdodau Unedol.
Meysydd ystadegol sy’n llai na wardiau ac sy’n cynnwys tua 1,500 o bobl.
Arolwg o’r farchnad lafur yn seiliedig ar y preswylwyr sy’n cynnwys y boblogaeth, gweithgarwch economaidd (cyflogaeth, hunangyflogaeth a’r di-waith), anweithgarwch economaidd a chymwysterau Maent wedi’u rhannu lle bo modd yn ôl rhyw, oed, ethnigrwydd, diwydiant a galwedigaeth.
Roedd yr Arolwg o’r Llafurlu yn arolwg chwarterol o sampl o 60,000 o deuluoedd a oedd yn byw mewn cyfeiriadau preifat ym Mhrydain Fawr a chafwyd yn deillio ohono wybodaeth am y farchnad lafur yn y DU. Mae’r arolwg blynyddol o’r boblogaeth yn fersiwn ehangach (hynny yw, mae’r sampl yn
cynnwys rhagor o deuluoedd) o’r Arolwg o’r Llafurlu.
Mae’n gyfrifol am gasglu, dadansoddi a chyflwyno adroddiadau ar ystadegau Addysg Uwch ar gyfer prifysgolion a cholegau addysg uwch yn y DU.
Y broses y disgwylir i sefydliadau ac unigolion ei defnyddio er mwyn dangos iddynt gyflawni eu hymrwymiadau, gan gynnwys defnyddio arian cyhoeddus yn briodol.
Ymadrodd cyffredinol ar gyfer y di-waith a phobl sy’n economaidd anweithgar.
Busnesau sy’n cyflogi rhwng 11 a 49 o bobl.
Mae cwmni bychan yn cyflogi hyd at 50 o weithwyr ac mae cwmni canolig ei faint yn cyflogi hyd
at 250 o weithwyr.
Pan fydd cyflogwyr yn teimlo nad yw sgiliau eu gweithwyr ar y pryd yn ddigon uchel.
Mae Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru wedi’i greu i fwrw ymlaen â’r gwaith o roi ar waith y strategaeth sgiliau a chyflogaeth a’r cynllun gweithredu Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru. Amcanion Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru yw cryfhau llais cyflogwyr ynghylch sgiliau yng Nghymru; rhoi cyngor arbenigol i Weinidogion Cymru; a chynorthwyo Cymru i ddatblygu economi uchel ei sgiliau sy’n rhoi cyfle i bawb.
Mae bwrsariaethau (ac ysgoloriaethau) yn cynnig cymorth ariannol i fyfyrwyr sy’n dod o gefndiroedd tlotach yn bennaf ac maent wedi’u hanelu at hwyluso’r broses o drosglwyddo i addysg uwch a’u helpu i gwblhau eu hastudiaethau yn llwyddiannus. Mae’r rhan fwyaf yn destun prawf modd ond mae rhai yn seiliedig ar feini prawf eraill megis teilyngdod academaidd.
Asiantaeth weithredol yr Adran Gwaith a Phensiynau sy’n cynorthwyo pobl i gael gwaith ac yn cynorthwyo cyflogwyr i lenwi swyddi gwag.
Y prif gyfrwng sy’n cael ei ddefnyddio i gasglu data sy’n ymwneud ag Addysg Bellach, Dysgu Cymunedol a Dysgu Seiliedig ar Waith. Erbyn hyn, LLWR yw’r unig ddull o gasglu data ar gyfer gweithgareddau dysgu y tu allan i’r ysgol a’r sector Addysg Uwch. Mae’r ystadegau a gynhyrchir gan y LLWR yn galluogi i’r holl weithgarwch sy’n gysylltiedig â dysgwyr a’r hyn sy’n cael ei ddysgu gael ei asesu yn ogystal â mesur cyfraddau cwblhau, cyrhaeddiad a llwyddiant.
Corff annibynnol a sefydlwyd i ddileu gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl ac i hyrwyddo cyfle cyfartal.
Nod Comisiwn y DU yw codi lefelau ffyniant a chyfleoedd yn y DU drwy wella cyflogaeth a sgiliau. Ei uchelgais yw bod o fudd i unigolion, cyflogwyr, llywodraeth a chymdeithas drwy roi cyngor annibynnol i Lywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig ar y lefelau uchaf ar sut y gall gwell systemau cyflogaeth a sgiliau helpu’r DU i fod yn arweinydd o’r radd uchaf o ran cynhyrchiant, cyflogaeth ac o ran creu cymdeithas deg a chynhwysol.
Yr addysg ffurfiol a gynigir gan ddarparwyr dysgu. Cafodd cwricwlwm diwygiedig ar gyfer disgyblion 3 i 19 oed yng Nghymru ei weithredu ym mis Medi 2008.
Mae’r Cydbwyllgor yn cael ei ariannu gan gyrff cyllido addysg uwch ac addysg bellach yn y DU er mwyn cynnig arweinyddiaeth o’r radd flaenaf wrth ddefnyddio TGCh mewn modd arloesol i gefnogi addysg ac ymchwil.
Cyflawni safon, sydd fel arfer yn cael ei gydnabod drwy dderbyn tystysgrif, sy’n dangos bod
unigolyn wedi cyflawni lefel ddiffiniedig o wybodaeth, sgil neu hyfedredd mewn pwnc neu
weithgaredd penodol.
Gwerth yr allbwn (nwyddau a gwasanaethau) fesul uned o’r mewnbwn (er enghraifft, gwaith a wnaed gan weithwyr). Mae cynyddu cynhyrchiant yn golygu cynhyrchu mwy gyda’r un faint o adnoddau neu lai.
Atal, dileu neu reoleiddio gwahaniaethu rhwng pobl ar sail rhyw neu statws priodasol, ar sail hiliol neu ar sail anabledd, oed, cyfeiriadedd rhywiol, iaith neu darddiad cymdeithasol neu briodweddau personol eraill gan gynnwys credoau neu safbwyntiau megis credoau crefyddol neu safbwyntiau gwleidyddol.
Cyfnewid gwybodaeth yw’r broses lle caiff gwybodaeth, arbenigedd ac asedau deallusol eu natur eu defnyddio’n adeiladol y tu hwnt i ffiniau addysg uwch er lles ehangach yr economi a’r gymdeithas drwy ymwneud â busnesau, y sector cyhoeddus a phartneriaid diwylliannol a chymunedol.
Cyfran y preswylwyr o oed gweithio sy’n gyflogedig (llawn amser, rhan amser neu’n hunangyflogedig).
Mae diffiniad y Sefydliad Llafur Rhyngwladol o’r di-waith yn cynnwys y bobl hynny sydd heb waith a oedd yn gallu dechrau gweithio o fewn y pythefnos yn dilyn eu cyfweliad o dan yr Arolwg o’r Llafurlu ac a oedd naill ai wedi bod yn chwilio am waith yn y pedair wythnos cyn y cyfweliad neu’n aros i ddechrau ar swydd roedden nhw eisoes wedi’i chael.
Y rheini sydd o oed gweithio sy’n gweithio neu wrthi’n chwilio am waith (hynny yw, mae’n mesur
nifer y bobl sydd mewn swydd yn ogystal â’r di-waith).
Cyfrif o’r holl bobl a’r holl aelwydydd sy’n rhan o boblogaeth y DU sy’n cael ei gynnal bob 10 mlynedd (cafodd y diweddaraf ei gynnal yn 2001).
At ddibenion cymharu ac ariannu, mae nifer y myfyrwyr a’r staff rhan amser yn cael eu trosi i’r hyn fyddai gyfwerth ag llawn amser. Y rheswm dros wneud hyn yw nad yw cyfrif pennau yn aml yn rhoi darlun teg o’r hyn sy’n cael ei gyflawni mewn gwirionedd.
Cymhwyster sy’n seiliedig ar gymhwysedd ac sy’n gysylltiedig â gwaith. Mae cymwysterau NVQ yn adlewyrchu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i gyflawni swydd yn effeithiol ac yn dangos bod ymgeisydd yn gymwys yn y maes sy’n cael ei gynrychioli gan yr NVQ.
Rhaglen sydd wedi’i chynllunio i wella amodau byw a rhagolygon pobl yn y cymunedau mwyaf difreintiedig ar draws Cymru drwy ddatblygu eu gallu i wneud penderfyniadau a chynnal prosiectau lleol.
Cymunedau Nesaf yw cam nesaf y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf a fydd yn galluogi pobl leol i gyfrannu at adfywio eu cymunedau mewn modd sy’n ymarferol yn unol â’u blaenoriaethau lleol.
Mae’r Cyngor yn Gorff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad a sefydlwyd ym mis Mai 1992 o dan Ddeddf Addysg Bellach ac Addysg Uwch 1992. Mae a wnelo’r Cyngor ag ariannu colegau a sefydliadau addysg uwch yng Nghymru. Mae ganddo hefyd y pwer i ariannu addysg uwch mewn
colegau addysg bellach.
Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Cyngor Cyllido’r Alban (SFC) a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr (HEFCE) yn cynnwys y cynghorau cyllido ar gyfer addysg uwch yn y DU. Nid oes cyngor cyllido ar gyfer Gogledd Iwerddon lle caiff y sefydliadau addysg uwch eu hariannu’n uniongyrchol gan yr Adran Cyflogaeth a Dysgu (DELNI), Gogledd Iwerddon.
Sefydliadau sy’n cael eu harwain gan gyflogwyr sy’n anelu at gynyddu cynhyrchiant a sgiliau’r llafurlu yn eu sector. Maent yn ymdrin ag oddeutu 85% o weithlu’r DU. Mae’r holl Gynghorau Sgiliau Sector wedi’u trwyddedu gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Sgiliau drwy ymgynghori â’r Gweinidogion yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Diben cyrsiau mynediad yw paratoi myfyrwyr nad oes ganddynt unrhyw gymwysterau safonol er mwyn cael eu derbyn ar gyrsiau addysg uwch.
Cyfres o ddangosyddion sydd wedi’u llunio er mwyn mesur perfformiad.
Unrhyw sefydliad sy’n darparu cyrsiau dysgu, gan gynnwys ysgolion, sefydliadau addysg bellach, sefydliadau addysg uwch, darparwyr hyfforddiant preifat, cyflogwyr a chyrff yn y sector gwirfoddol.
Dysgu neu hyfforddiant sy’n gwella perfformiad yr unigolyn wrth ei waith a chynhyrchiant o ran y busnes.
Holl ystod y dysgu sy’n gwella gallu pobl i gael eu cyflogi a chyfrannu at gynhyrchiant.
Cyfres o raglenni hyfforddi byr a hir sy’n hybu datblygu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth cysylltiedig â gwaith lle mae opsiwn i gael achrediad mewn perthynas â rhai ohonynt.
Deddfwriaeth y DU sy’n nodi hawliau pobl anabl i beidio â gorfod wynebu gwahaniaethu na ellir mo’i gyfiawnhau mewn cymdeithas ar sail anabledd.
Y broses a ddefnyddir i farnu a yw cwrs wedi bodloni’r gofynion er mwyn cael dyfarniad gan y corff perthnasol sy’n dyfarnu graddau, neu’r corff arholi perthnasol neu sefydliad achredu ar ran y corff hwnnw sy’n dyfarnu graddau.
Dull o ddosbarthu sefydliadau busnes yn ôl y math o weithgaredd economaidd y maent yn ymwneud ag ef.
Dull o ddosbarthu swyddi
Dysgu sy’n anelu at ddatblygu gwybodaeth a sgiliau sy’n ymwneud â phwnc penodol neu sy’n gyffredinol eu natur yn hytrach na bod yn uniongyrchol gysylltiedig â galwedigaeth benodol.
Dysgu heb gwricwlwm penodol na deilliannau diffiniedig.
Addysg a hyfforddiant sydd ar gael y tu hwnt i’r oed pan fo’n ofynnol i bobl dderbyn addysg. Fe’i gelwir hefyd yn ddysgu ôl-16.
Dysgu oddi mewn i gwricwlwm penodedig ac iddo ddeilliannau diffiniedig. Bydd yn aml yn arwain at ddyfarnu cymhwyster neu gredyd.
Y dysgu sy’n berthnasol i alwedigaeth benodol sydd fel rheol yn cynnwys datblygu gwybodaeth a sgiliau technegol neu broffesiynol penodol.
Datblygiad parhaus sgiliau a gwybodaeth drwy gydol oes, boed er mantais economaidd neu er mwyn cyflawni uchelgais personol.
Yn yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, mae dysgwyr sy’n oedolion yn 16 oed neu drosodd ac maent wedi cymryd rhan mewn rhai sesiynau dysgu drwy gyfrwng sesiynau sydd wedi’u haddysgu a/neu sesiynau sydd heb eu haddysgu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Dysgu sy’n cael ei ddarparu mewn lleoliadau cymunedol ac sydd wedi’i gynllunio i gyrraedd lleoliadau a phobl nad ydynt o fewn cyrraedd mathau eraill o ddysgu. Yn draddodiadol, mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn darparu ar gyfer oedolion yn bennaf ac fel arfer nid yw’n alwedigaethol ei natur; mae’n rhan o Addysg Bellach.
Dysgu sy’n cael ei ddarparu gan brifysgol, coleg neu ddarparwr hyfforddiant arall yn y gweithle, fel rheol o dan oruchwyliaeth person o’r un cwmni yn ogystal ag athro proffesiynol o’r tu allan i’r cwmni. Yn draddodiadol, mae’r term yn cael ei ddefnyddio yng nghyd-destun Prentisiaethau Modern a chyrsiau perthnasol ond gall gyfeirio hefyd at rai ffurfiau o Addysg Uwch.
Cyflwyno cynnwys drwy ddefnyddio cyfryngau electronig megis y rhyngrwyd, fideo, teledu a CD-ROM rhyngweithiol. Mae e-Ddysgu yn cwmpasu’r holl ddysgu sy’n digwydd, boed yn ffurfiol neu’n anffurfiol, drwy gyfrwng electronig.
Yr hyn fydd yn digwydd pan fydd cyngor cyllido, sefydliad neu gorff arall yn gweithredu polisïau ac yn cymryd camau a fydd wedi’u targedu at sicrhau bod pawb sydd â’r potensial i elwa o addysg uwch yn cael y cyfle i wneud hynny beth bynnag y bo eu cefndir a phryd bynnag y bydd ei angen.
Cyflog gros wythnosol (hynny yw, cyn tynnu treth, yswiriant gwladol neu ddidyniadau eraill a chan eithrio taliadau ar ffurf nwyddau) a dderbynnir gan weithwyr (ac eithrio pobl hunangyflogedig) yn seiliedig ar yr ardal lle maent yn byw.
Cyflog gros wythnosol (hynny yw, cyn tynnu treth, yswiriant gwladol neu ddidyniadau eraill a chan eithrio taliadau ar ffurf nwyddau) a dderbynnir gan weithwyr (ac eithrio pobl hunangyflogedig) yn seiliedig ar yr ardal lle maent yn gweithio.
Creu menter busnes newydd, cymryd risg er mwyn sicrhau budd ariannol.
Swyddfa Prif Arolygydd ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Mae’n gyfrifol am arolygu ansawdd a safonau ar draws pob sector addysg a hyfforddiant yng Nghymru.
Dull newydd o gydnabod sgiliau a chymwysterau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn seiliedig ar ddyfarnu credyd am gamau dysgu bychan. Bydd y Fframwaith yn rhan o Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC).
Dull o gydnabod sgiliau a chymwysterau yng Nghymru yn seiliedig ar faint a lefel y dysgu. Mae’r fframwaith yn cynnwys cymwysterau wedi’u rheoleiddio, addysg uwch a dysgu gydol oes gyda sicrwydd ansawdd. Bydd y Fframwaith yn cynnwys y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau newydd (FfCCh).
Mae’r Fframwaith yn pennu’r lefelau ar gyfer cydnabod cymhwyster yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon.
Strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru i wella Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol yng Nghymru.
Cymwysterau ar lefel gradd sydd wedi’u cynllunio ar y cyd â chyflogwyr. Maent yn cyfuno astudiaethau academaidd â dysgu yn y gweithle er mwyn rhoi i’r bobl y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i wella perfformiad a chynhyrchiant.
Grwpiau lle bo niferoedd sylweddol is na’r cyfartaledd cenedlaethol yn cymryd rhan ar gyfer y garfan dan sylw. Gallai enghreifftiau o grwpiau o’r fath gynnwys pobl o gefndiroedd incwm isel, grwpiau economaidd-gymdeithasol is eu safle, cymdogaethau lle bo’r lefelau cyfranogi yn isel, grwpiau ethnig lleiafrifol penodol neu bobl anabl.
Mae Gwerth Ychwanegol Crynswth yn cael ei fesur fel swm yr incwm a enillir o gynhyrchu nwyddau a gwasanaethau mewn rhanbarth/is-ranbarth. Mae elfennau unigol o’r incwm yn cynnwys: iawndal gweithwyr (a gâi ei alw cyn hynny yn incwm o gyflogaeth), gwarged gweithredol gros, incwm a threthi cymysg (llai cymorthdaliadau) ar gynhyrchu. Mae Gwerth Ychwanegol Crynswth rhanbarthol yn cael ei gyfrifo ar sail y gweithle ac ar sail y breswylfa. Mae Gwerth Ychwanegol Crynswth seiliedig ar y breswylfa yn dyrannu incwm cymudwyr ar sail ble y maent yn byw ac mae Gwerth Ychwanegol Crynswth seiliedig ar y gweithle yn dyrannu eu hincwm ar sail ble y maent yn gweithio. Ar sail NUTS lefel 2 a lefel 3 mae’r amcangyfrifon yn cael cynhyrchu ar lefel y gweithle yn unig.
Mae’r amrywiaeth mawr ym maint, demograffeg, strwythur diwydiannol a pherfformiad economaidd rhanbarthau ac is-ranbarthau’r DU yn ei gwneud hi’n anodd cymharu perfformiad economaidd y rhanbarthau drwy ddefnyddio cyfansymiau ariannol. Mae’r cymariaethau yn cael eu mynegi felly yn nhermau symiau y pen o’r boblogaeth breswyl. Mae amcangyfrifon Gwerth Ychwanegol Gros NUTS 3 y pen yn cael eu cyfrifo drwy rannu’r amcangyfrif ar gyfer Gwerth Ychwanegol Gros ar sail y gweithle ar gyfer ardal gan y boblogaeth breswyl ar gyfer yr ardal honno. Bydd yr amcangyfrifon ar gyfer Gwerth Ychwanegol Gros y pen felly yn uchel mewn ardaloedd lle mae lefelau uchel o gymudo o’r tu allan a phoblogaeth breswyl isel. Yn groes i hynny, bydd amcangyfrifon ar gyfer Gwerth Ychwanegol Gros y pen yn isel mewn ardaloedd lle mae lefelau sylweddol o gymudo o’r tu mewn a phoblogaeth breswyl uchel.
Cyfanswm y swyddi ar gyfer gweithwyr, yr hunangyflogedig, aelodau o’r lluoedd arfog a phobl dan hyfforddiant sy’n derbyn cymorth gan y Llywodraeth.