
Caiff Incwm Aelwydydd Crynswth i’w Wario (GDHI) ei ddiffinio fel cyfanswm incwm yr aelwyd (gan gynnwys budd-daliadau) llai trethi cyfredol ar incwm, cyfoeth a chyfraniadau cymdeithasol eraill. Tra’r bo Gwerth Ychwanegol Crynswth (GVA) yn nodi gwerth yr holl weithgarwch economaidd mewn maes penodol, mae GDHI yn mesur pa adnoddau ariannol sydd gan aelwydydd i’w gwario ar nwyddau a gwasanaethau. Fel gyda GVA, nid yw data GDHI yn cael eu cynhyrchu ar lefel ardal a dim ond ar lefel is-ranbarthol, NUTS lefel 3, y maent ar gael. Mae GDHI yn cael ei gyflwyno fel mynegai lle bo gan y DU fynegai o 100.
Mae’r dadansoddiad a wneir o sgiliau yn y papur hwn yn defnyddio cymwysterau fel mesur procsi ar gyfer lefel y sgiliau. Er nad yw hyn yn ddelfrydol, cymwysterau yw’r mesur gorau sydd ar gael. Defnyddir tair lefel o sgiliau yn fras:
Lwfans ar gyfer myfyrwyr anabl mewn Addysg Uwch.
Y preswylwyr eraill nad yw eu grwp ethnig wedi’i ddosbarthu’n ‘Gwyn Prydeinig’, Gwyn Gwyddelig’, ‘Gwyn Arall’.
Cymhwysedd sylfaenol mewn gramadeg, sillafu a’r gair ysgrifenedig.
Lefel o lythrennedd neu rifedd sy’n is na’r hyn sy’n ofynnol i gael cymhwyster ffurfiol.
Proses a ddefnyddir i ddadansoddi arferion er mwyn cael mesur safonol (‘meincnod’) o berfformiad effeithiol o fewn sefydliad (er enghraifft prifysgol). Mae meincnodau hefyd yn cael eu defnyddio i gymharu perfformiad â sefydliadau a sectorau eraill.
Memorandwm ariannol yw cytundeb rhwng APADGOS a’r sefydliadau y mae’n eu hariannu sy’n amlinellu telerau ac amodau talu am grantiau.
Meddwl am syniadau newydd a ffyrdd newydd o wneud pethau a’u rhoi ar waith.
Pan fydd y farchnad yn methu dosbarthu adnoddau yn effeithiol. Mae rhai economegwyr wedi dadlau bod methiannau yn y farchnad yn digwydd ym maes sgiliau, er enghraifft ffyrmiau yn poeni y bydd gweithwyr, unwaith y byddant wedi’u hyfforddi, yn gadael y ffyrm cyn y gallant gael y budd o’u buddsoddiad. Gall lefel yr hyfforddiant a gaiff ei darparu gan y farchnad felly fod yn aneffeithiol o isel.
Busnesau sy’n cyflogi rhwng 1 a 9 gweithiwr.
Arian a roddir gan y llywodraeth i brifysgolion a cholegau drwy gynghorau cyllido addysg uwch y DU er mwyn helpu myfyrwyr sy’n wynebu anawsterau ariannol â’u costau byw. Gall yr arian gael ei ddefnyddio i roi bwrsariaeth i fyfyrwyr a allai gael eu hatal rhag parhau i faes addysg uwch. Gallant gael eu defnyddio hefyd i ddileu ffioedd dysgu ar gyfer myfyrwyr rhan amser sy’n derbyn budd-daliadau neu sy’n cael eu hunain yn ddi-waith yn ystod eu cwrs.
Fe’i lluniwyd yn rhan o bartneriaeth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac Uned Ddata Llywodraeth Leol er mwyn mesur amddifadedd mewn perthynas â saith ffactor gwahanol (neu ‘feysydd’) sef:
Mae’r sgôr o bob maes yn cael eu cyfuno i greu mesur cyffredinol o’r graddau y gwelir amddifadedd lluosog mewn ardal benodol.
Dull a ddefnyddir i fesur diweithdra sef cyfrif llawn o nifer y bobl sy’n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith bob mis.
Y syniad y dylai fod statws cyfartal i ddysgu academaidd a dysgu galwedigaethol.
Y cyrff a’r sefydliadau rydym yn gweithio gyda nhw i sicrhau deilliannau.
Y llywodraeth a busnesau yn cydweithio i fynd i’r afael â’r heriau cynyddol o ran recriwtio a sgiliau yn y farchnad lafur heddiw. Mae cyflogwyr ar draws y wlad yn ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gyda’r Llywodraeth i greu cyfleoedd i bobl nad ydynt eto, am ba reswm bynnag, wedi medru manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael i gael gwaith.
Mae cwestiynau’r Arolwg o’r Llafurlu ar iechyd ac anabledd yn adlewyrchu darpariaethau’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 ac yn seiliedig yn gyfan gwbl ar yr unigolyn ei hun yn cofnodi ei anabledd. Gofynnir i bobl y disgwylir i’w problem(au) iechyd neu anabledd(au) bara am ragor na blwyddyn, a yw eu problem iechyd/anabledd yn effeithio ar y math o waith neu faint o waith y gallent ei wneud (hynny yw anabledd sy’n cyfyngu ar eu gwaith). Mae’r rheini sy’n cwrdd â’r meini prawf ar gyfer y naill elfen neu’r llall (neu’r ddwy elfen - fel sy’n digwydd fel arfer) o’r diffiniadau presennol o dan y Ddeddf neu ddiffiniadau o anabledd sy’n cyfyngu ar y gwaith yn cael eu diffinio fel pobl sydd, ar y pryd, ag anabledd hirdymor ac felly maent wedi’u cynnwys yn y grwp ‘pobl ag anableddau’.
Rhaglenni dysgu seiliedig ar waith sy’n cyfuno gweithio am gyflog gyda sesiynau dysgu yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith. Mae Prentisiaethau Modern ar gael ar lefel 3 y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol ac mae Prentisiaethau Modern Sylfaenol ar gael ar lefel 2 y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol.
Sefydliadau addysg uwch a gafodd statws prifysgol o ganlyniad i ddarpariaethau’r Ddeddf Addysg Bellach ac Addysg Uwch 1992.
Sefydliadau addysg uwch a gafodd statws prifysgol cyn y daeth darpariaethau’r Ddeddf Addysg Bellach ac Addysg Uwch 1992 i rym; a’r ddwy brifysgol yng Ngogledd Iwerddon.
Grwp ymbarél yn cynrychioli barn a buddiannau is-gangellorion a phrifathrawon prifysgolion a chyrff addysg uwch eraill yn y DU.
Pan fydd cyflogwyr yn methu dod o hyd i staff â’r sgiliau sydd eu hangen arnynt. Gall hyn fod yn un rheswm dros broblemau recriwtio.
Cymhwysedd sylfaenol wrth ddefnyddio rhifau.
Cyrsiau Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill neu Saesneg fel Iaith Ychwanegol neu Iaith Arall.
Term cyffredinol ar gyfer sefydliadau addysg a allai gynnwys prifysgolion, colegau addysg uwch a cholegau addysg bellach.
Mae’r Sefydliad Arweinyddiaeth yn cynnig gwasanaeth penodol sy’n rhoi cymorth a chyngor ar arweinyddiaeth, llywodraethu a rheoli ar gyfer holl sefydliadau addysg uwch y DU.
Colegau a sefydliadau eraill megis YMCA.
Y gallu sy’n cael ei ddatblygu i alluogi rhywun i wneud rhywbeth.
Dyma’r sgiliau hanfodol y bydd eu hangen ar bawb i lwyddo mewn addysg, y byd gwaith ac mewn bywyd yn gyffredinol.
Y sgiliau craidd trosglwyddadwy sy’n cynrychioli’r wybodaeth, y sgiliau a’r agweddau gweithredol a galluogi sy’n ofynnol yn y gweithle heddiw. Maent yn angenrheidiol er mwyn llwyddo mewn gyrfa ar bob lefel o gyflogaeth ac ar bob lefel o addysg. Maent yn cynnwys gwybodaeth, ymddygiadau ac agweddau a fydd yn helpu pobl i gael gwaith.
Rhaglen ymchwil oedd Sgiliau Dyfodol Cymru ar y sgiliau sydd gan Gymru ar hyn o bryd a’r sgiliau y bydd eu hangen yn y dyfodol. Câi ei ariannu gan Lywodraeth y Cynulliad a’i gydgysylltu gan grwp llywio yn cynnwys ystod eang o gynrychiolwyr o’r sector cyhoeddus a’r sector preifat.
Sgiliau sy’n berthnasol i’r rhan fwyaf o’r swyddi – gweler cyflogadwyedd hefyd.
Elfennau craidd Saesneg, mathemateg a TGCh sy’n galluogi pobl i weithredu’n hyderus, yn effeithiol ac yn annibynnol mewn bywyd ac yn y gwaith – gweler hefyd sgiliau sylfaenol.
Sgiliau Hanfodol Cymru yw’r gyfres newydd o gymwysterau ar gyfer sgiliau a fydd yn disodli’r Sgiliau Allweddol cyfredol sef Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif a TGCh a Sgiliau Sylfaenol Llythrennedd Oedolion, Rhifedd Oedolion a Sgiliau Bywyd TGCh. Bydd y gyfres newydd hon o gymwysterau sgiliau yn cael ei gweithredu o fis Medi 2010 ymlaen. O’r dyddiad hwnnw ymlaen, ni fydd Sgiliau Allweddol a Sgiliau Sylfaenol ar gael mwyach yng Nghymru.
Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu neu briodweddau personol eraill megis cymhelliad neu arweinyddiaeth, y bydd cyflogwyr yn aml yn chwilio amdanynt yn ogystal â sgiliau technegol.
Sgiliau sydd eu hangen i wneud swydd arbennig.
Y strategaeth sy’n disgrifio uchelgais Cymru’n Un ar gyfer gweithlu sydd wedi’i haddysgu i lefel uchel, sy’n meddu ar sgiliau ar lefel uchel ac sy’n arwain at ganran uchel o bobl sy’n gweithio yng Nghymru.
Y gallu i ddarllen, ysgrifennu neu siarad yn Gymraeg neu yn Saesneg a defnyddio mathemateg ar lefel sy’n ofynnol i weithio neu ddatblygu yn y gwaith ac yn rhan o gymdeithas.
Sgiliau a ddysgwyd mewn un swydd neu gyd-destun a allai fod yn ddefnyddiol mewn swyddi neu gyd-destunau eraill.
Y Biwro Cenedlaethol i Fyfyrwyr ag Anableddau – corff sy’n perthyn i’r sector gwirfoddol sy’n hyrwyddo cyfleoedd i bobl ifanc ac oedolion ag unrhyw anabledd sy’n derbyn addysg, hyfforddiant a chyflogaeth ledled y Deyrnas Unedig ôl-16. Mae swyddfa Cymru yng Nghaerdydd – SGIL/SKILL Cymru.
Menter gan yr Adran Gwaith a Phensiynau/Canolfan Byd Gwaith yw Strategaeth Dinasoedd ac mae’n weithredol mewn 15 o ardaloedd ‘braenaru’ yn y DU. Mae’r fenter yn cael ei rheoli drwy gonsortia lleol sy’n cyflwyno gwasanaethau sydd wedi’u cynllunio’n lleol ac sy’n canolbwyntio ar anghenion arbennig ardaloedd lleol. Mae dau gynllun braenaru o dan y fenter Strategaeth Dinasoedd yng Nghymru: y Rhyl a Blaenau’r Cymoedd.
Term cyffredinol ar gyfer trefniadau rhwng dau sefydliad neu ragor (prifysgolion, colegau addysg uwch neu golegau addysg bellach) lle maent yn gweithio ar y cyd â’i gilydd.
Cydffederasiwn o sefydliadau sy’n cynrychioli myfyrwyr lleol mewn colegau a phrifysgolion ledled y Deyrnas Unedig.
Mae 27 Aelod-wladwriaeth yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd: Awstria, Gwlad Belg, Bwlgaria, Cyprus, y Weriniaeth Tsiec, Denmarc, Estonia, y Ffindir, Ffrainc, yr Almaen, Groeg, Hwngari, Gweriniaeth Iwerddon, yr Eidal, Latfia, Lithiwania, Lwcsembwrg, Malta, yr Iseldiroedd, Gwlad Pwyl, Portiwgal, Rwmania, Slofacia, Slofenia, Sbaen, Sweden, y Deyrnas Unedig.
Mae’r unedau hyn yn cael eu defnyddio fel categorïau pwnc ar gyfer yr Ymarferiad Asesu Ymchwil. Ar gyfer yr ymarferiadau ym 1996 a 2001 defnyddiwyd 69 o unedau asesu. Ar gyfer yr ymarferiad yn 2008 defnyddiwyd 67 uned asesu.
Y farchnad rhwng cwmnïau sy’n chwilio am weithwyr a gweithiwyr sy’n chwilio am waith.
Arolwg blynyddol ymhlith busnesau yw’r Ymchwiliad Busnes Blynyddol (ABI) sy’n casglu data o sampl o fusnesau er mwyn creu amcangyfrifon o swyddi a sefydliadau busnes yn ôl diwydiant a daearyddiaeth. Nid yw ffigurau ABI yn cynnwys yr hunangyflogedig. Nid yw unedau data yn yr ABI yn cyfateb yn hawdd i’r termau cyffredin, er enghraifft, ffyrm, cwmni neu fusnes, a ddefnyddir i ddynodi cyflogwyr. Yn fras, maent yn cyfateb i’r gweithle ond oherwydd y ffordd y mae’r data yn cael eu casglu, gall dwy uned neu ragor fod yn bresennol yn yr un gweithle. Er enghraifft, mae’n bosib y bydd gan fanc nifer o ganghennau a swyddfeydd mewn dinas felly byddai pob un ohonynt yn cael eu cyfrif fel uned ddata ar wahân.