
Ar y dudalen hon gallwch fynd at y prif gylchlythyrau addysg, sgiliau a chyflogaeth yn y DU. Bydd y cylchlythyrau’n cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf ar ymchwil, gwybodaeth am y farchnad lafur (LMI), ac arferion gorau ar draws y DU, Ewrop a’r byd i gyd. Os hoffech weld dolen i’ch cylchlythyr chi wedi’i chyhoeddi yma, e-bostiwch dîm LSO.
• Yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (APADGOS) – Cymru
• Fforwm
• Department for Children, Schools & Families (DCSF) - England
• Department for Innovation, Universities & Skills (DIUS) - England
• United Kingdom Commission for Employment and Skills (UKCES)
• Eurydice at the National Foundation for Educational Research (NFER)
• Qualifications & Curriculum Authority (QCA)
• Office of the Qualifications & Examinations Regulator (Ofqual) - England
• European Employment Observatory (EEO)
• C4EO - Centre for Excellence and Outcomes in Children and Young People's ServicesC4EO
Fel rhan o Lywodraeth Cynulliad Cymru, nod yr Adran yw gwella gwasanaethau plant a’r ddarpariaeth addysg a hyfforddiant er mwyn sicrhau gwell canlyniadau i ddysgwyr, busnes a chyflogwyr, fel y nodir yn ein dogfen strategol, ‘Y Wlad sy’n Dysgu’. Mae’n helpu i alluogi plant, pobl ifanc ac oedolion, drwy addysg a hyfforddiant, i fwynhau ansawdd bywyd gwell.
Dysg Cylchlythyr – Yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau addysg a hyfforddiant ôl-14 yng Nghymru a Lloegr.
fforwm yw’r corff cenedlaethol sy’n cynrychioli’r 23 coleg addysg bellach (AB) a’r ddau sefydliad AB yng Nghymru.
Pwrpas yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd yw sicrhau mai Lloegr yw’r wlad orau yn y byd i fagu plant a phobl ifanc. Rydym am: wneud plant a phobl ifanc yn hapus ac yn iach; eu cadw’n ddiogel; rhoi addysg o’r radd flaenaf iddynt; a helpu i’w rhoi ar ben y ffordd.
The Research Informed Practice Site
Pwrpas yr Adran Arloesedd, Prifysgolion a Sgiliau yw cydweithio â’u partneriaid i: ddatblygu sgiliau pobl i’r eithaf, cyflawni ymchwil ac ysgoloriaeth o’r radd flaenaf, a defnyddio gwybodaeth a sgiliau i greu economi arloesol a chystadleuol.
DIUS FE and Skills e-Newsletter
Nod y Comisiwn yw cynyddu ffyniant a chyfleoedd yn y DU drwy wella cyflogaeth a sgiliau.
Mae Eurydice yn SCYA yn rhan o’r rhwydwaith gwybodaeth am addysg yn Ewrop, a’i nod yw darparu gwybodaeth gymharol, ddibynadwy ar addysg yn Ewrop i gefnogi a gwella’r broses o lunio polisïau. Mae Eurydice yn SCYA yn gwasanaethu gwneuthurwyr polisi ar lefel Ewropeaidd, cenedlaethol a llywodraeth leol a hefyd yn sicrhau bod yr wybodaeth berthnasol ar gael yn hawdd ar y wefan hon i’r gymuned addysg ehangach. Rydym yn arbennig o awyddus i gefnogi gweithgareddau o dan Raglen Dysgu Gydol Oes yr Undeb Ewropeaidd.
Eurydice Newsletter - Education In The News
‘y pwynt cysylltu cyntaf i bawb sy’n ymwneud â llunio polisi’
Nod y safle hwn yw hybu meddwl strategol a gwella’r modd y caiff polisïau eu llunio a’u cyflwyno ar draws y llywodraeth. Mae’n ceisio darparu amrywiaeth o safbwyntiau ar faterion polisi i ddefnyddwyr. Fodd bynnag, mae eu haddasrwydd a’u gwerth yn faterion i ddefnyddwyr unigol eu barnu ac ni all, ac nid yw, Canolbwynt Polisïau’n cymeradwyo unrhyw ddeunyddiau a gynhwysir ar y safle hwn sy’n dod o sefydliadau nad ydynt yn perthyn i lywodraeth y DU.
Gwefan yr Ysgol Lywodraethu Genedlaethol
Y corff rheoleiddio sy’n gyfrifol am gynnal a datblygu’r cwricwlwm cenedlaethol ac asesiadau, profion ac arholiadau cysylltiedig.
Y corff sy’n rheoleiddio cymwysterau, arholiadau a phrofion yn Lloegr.
Mae Arsyllfa Cyflogaeth Ewrop (EEO) yn cyfrannu at ddatblygu’r strategaeth Cyflogaeth yn Ewrop drwy ddarparu gwybodaeth, ymchwil gymharol a gwerthusiad o bolisïau cyflogaeth a thueddiadau’r farchnad lafur yn y gwledydd o fewn yr EEO.
Mae'r C4EO yn nodi ac yn cydgysylltu tystiolaeth leol, ranbarthol a chenedlaethol o'r 'hyn sy'n gweithio', er mwyn creu darlun unigol a chynhwysfawr o arfer effeithiol wrth ddarparu gwasanaethau plant yn Lloegr. Drwy ddefnyddio'r wybodaeth hon, mae'r C4EO yn cynnig cymorth i awdurdodau lleol a'u partneriaid Ymddiriedolaeth Plant, gan gydweithio â hwy i wella'r canlyniadau ar gyfer plant, pobl ifanc a'u teuluoedd.