Gogledd Cymru
- 678,500 yw poblogaeth ddiweddaraf y gogledd. (2007)
- Erbyn 2020 rhagwelir y bydd poblogaeth y gogledd yn 722,800
- Yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2008 o’r 425 o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is yn y gogledd, mae 26 (6%) yn y 10% o ardaloedd o amddifadedd mwyaf yng Nghymru.
- Parhaodd 80 y cant o ddisgyblion blwyddyn 11 a allai adael ysgol yn 2008 mewn addysg llawn amser. Roedd 46 y cant o ddisgyblion blwyddyn 11 a barhaodd mewn addysg llawn amser wedi aros ymlaen yn yr ysgol tra bod 54 y cant wedi dewis parhau i flwyddyn 12 mewn coleg addysg bellach.
- Yn 2007 roedd gan 70 y cant o’r holl oedolion o oedran gweithio gymhwyster ar lefel 2 neu uwch, gyda 26 y cant ar lefel 4 neu uwch. Nid oes gan 13 y cant o’r boblogaeth oedran gweithio unrhyw gymwysterau.
Data economaidd
- Roedd Cyfanswm Gwerth Ychwanegol Crynswth y gogledd yn £9.3 biliwn yn 2006. Ddechrau 2008, roedd 22,060 o fusnesau wedi’u cofrestru ar gyfer TAW yn y canolbarth ac yn 2007 roedd gan yr ardal weithlu o 308,500 o bobl. (Datganiad Gwerth Ychwanegol Crynswth (GYA) rhanbarthol ONS, Rhag 2008; Cofrestriadau a Datgofrestriadau ar gyfer TAW BERR 2007, Tach 2008; Cyflogaeth yn y Gweithle Llywodraeth Cynulliad Cymru, Gorff 2008)
- Ar £13,727, roedd GYC y pen o’r boblogaeth yn y gogledd yn 2006 yn cyfateb i 72 y cant o gyfartaledd y DU. (Datganiad Gwerth Ychwanegol Crynswth (GYA) rhanbarthol ONS, Rhag 2008).
- Roedd 550 o fusnesau wedi’u cofrestru ar gyfer TAW fesul 10,000 o boblogaeth oedran gweithio yn y gogledd, o gymharu â 486 ar gyfer Cymru a 536 ledled y DU, fel ar 1 Ionawr 2008. (Cofrestriadau a Datgofrestriadau ar gyfer TAW BERR 2007, Tach 2008).
Y Farchnad Lafur
- Ar 4.8 y cant, roedd cyfradd ddiweithdra’r Sefydliad Llafur Rhyngwladol yn y gogledd am y flwyddyn hyd at fis Medi 2008 yn is na’r gyfradd ar gyfer Cymru gyfan a’r DU (5.8 a 5.3 y cant yn ôl eu trefn (Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yr ONS, Mawrth 2009)
- Yn y flwyddyn hyd at fis Medi 2008 roedd y gyfradd gyflogaeth yn y gogledd yn cyfateb i 74.5 y cant o’r boblogaeth oedran gweithio, dros dri phwynt canran yn uwch na chyfartaledd Cymru (71.3 y cant) ac ychydig yn uwch na chyfartaledd y DU (74.4 y cant). (Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yr ONS, Mawrth 2009)
- Roedd 24 y cant o swyddi yn y gogledd yn 2006 yn perthyn i’r sectorau cynhyrchu ac adeiladu, o gymharu ag 20 y cant yng Nghymru a 20 y cant ledled y DU. (Cyflogaeth yn y Gweithle fesul diwydiant yng Nghymru, 2001 i 2006 Llywodraeth Cynulliad Cymru, Gorff 2008)
- £485.5 yr wythnos oedd cyfartaledd yr enillion llawn amser yn y gogledd ym mis Ebrill 2008, ychydig yn is na chyfartaledd Cymru gyfan ac yn cyfateb i 85 y cant o gyfartaledd y DU. (Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion yr ONS, Tach 2008)
Ffynhonnel: StatsCymru