
Gan adeiladu ar yr ymrwymiad ym Maniffesto Cymru’n Un i ddiwygio’r trefniadau ariannu ar gyfer ysgolion ac addysg bellach, gwnaeth Sgiliau Sy’n Gweithio i Gymru: Cynllun Gweithredu a Strategaeth Sgiliau a Chyflogaeth bennu’r nod o sefydlu system sgiliau sy’n fwy ymatebol ac yn ymateb i’r galw. Ar ddiwedd 2009, cynhaliwyd ymarfer ymgynghori er mwyn diwygio’r system ariannu:
Tynnodd yr ymgynghoriad sylw at gynigion Llywodraeth Cynulliad Cymru i gael polisi ffioedd ar gyfer addysg a hyfforddiant ôl-16 (ac eithrio Addysg Uwch) ac Arian Blaenoriaethau Sector fel y nodwyd yn y strategaeth Sgiliau Sy’n Gweithio i Gymru ym mis Gorffennaf 2008. Yr oedd yr ymgynghoriad hefyd yn cynnig nifer o newidiadau cysylltiedig i gymorth i fyfyrwyr, gan gynnwys opsiynau ar gyfer dyfodol y Cyfrifon Dysgu Unigol (Cymru) a newidiadau i Lwfansau Cynhaliaeth Addysg. Mae cynigion y Cynulliad o ran diwygio’r trefniadau ariannu ar gyfer addysg ôl-16 a’r cymorth ariannol cysylltiedig i ddysgwyr yn troi’r strategaeth honno yn gynigion cadarn. Mae’r adroddiad ar yr ymarfer ymgynghori i’w weld yma.