
Prifysgol Morgannwg, Coleg Sir Gar, Coleg Glan Hafren, Coleg Glannau Dyfrdwy a Choleg Powys, y Drenewydd
Cynhelir cyfarfod nesaf y Rhwydwaith Ansawdd ac Effeithiolrwydd ar 8 Gorffennaf. Caiff ei gynnal ar ffurf fideo-gynadledda pum ffordd. Y lleoliadau yw Prifysgol Morgannwg, Coleg Sir Gar, Coleg Glan Hafren, Coleg Glannau Dyfrdwy a Choleg Powys, y Drenewydd.
Bydd y digwyddiad yn dechrau am 9.30 a disgwylir iddo ddod i ben am 12.30. Yn ystod y digwyddiad, ceir y cyflwyniadau canlynol:
Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg - Anne Jenkins, APADGOS
WorldSkills DU - Mark Bradley, APADGOS
Ffocws ar Addysgeg - Claire Thomas, APADGOS
A gobeithiwn dderbyn diweddariad ar y strategaeth ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)
Os hoffech chi fod yn bresennol yng nghyfarfod y Rhwydwaith, a fyddech cystal â llenwi’r ffurflen ymateb.
*Mae’r Rhwydwaith Ansawdd ac Effeithiolrwydd yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth ac mae’n hwyluso rhwydweithio cyffredinol ymysg ymarferwyr a rheolwyr sy’n gyfrifol am gynllunio er mwyn datblygu’r ddarpariaeth a’r cwricwlwm ar gyfer darparwyr dysgu ôl-14 (Awdurdodau Addysg Lleol, darparwyr hyfforddiant, darparwyr dysgu yn y gymuned, ysgolion, colegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith. etc.) Mae modd gweld cyflwyniadau sy’n berthnasol i Gymru gyfan ar ffurf cyswllt fideo, ynghyd â rhagor o wybodaeth ranbarthol a thrafodaeth.