
Canolfan Gynadledda Parc Cefn Lea, Y Drenewydd
Os yw eich prosiect a gyllidwyd gan Amcan 1/2/3 wedi dod i ben a’ch bod yn chwilio am ddewisiadau cyllido ar gyfer y dyfodol gan gynnwys rhaglenni Cronfeydd Strwythurol Ewrop 2007/2013 a thu hwnt, efallai y bydd y digwyddiad hwn o ddiddordeb i chi. Ei bwrpas yw annog mudiadau i ystyried cynllunio olyniaeth a dewisiadau ar gyfer datblygu mudiadau ar ôl y Cronfeydd Strwythurol.
Bydd yr agenda yn edrych ar bolisi ac ymarfer caffael yn y sector cyhoeddus, a bydd gweithdai’n canolbwyntio ar sut mae tendro, cyllid cynaliadwy, cynhyrchu incwm drwy fasnachu a datblygu asedau, rheoli risg yn effeithiol a chyllid benthyciad.
Mae’r digwyddiad hwn wedi’i anelu at gynulleidfa genedlaethol; serch hynny, cynhelir digwyddiadau rhanbarthol ledled Cymru yn ystod mis Hydref/Tachwedd 2008 a byddant wedi’u teilwra yn ôl diddordebau mudiadau llai yn y trydydd sector. Does dim tâl mynediad.
Os hoffech gofrestru i ddod i’r digwyddiad, llenwch y ffurflen archebu lle sydd ynghlwm a’i dychwelyd at erbyn 3 Medi 2008:
e-bost: socialrisk@wcva.org.uk neu ffacs: 029 2043 1701.
Cefnogir y digwyddiadau hyn yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cynulliad Cymru.