Cynhadledd Addysg Effeithiol (APADGOS - Llywodraeth Cynulliad Cymru)
Venue Cymru, Llandudno
06 - 08.05.09
11am Ddydd Mercher 6 Mai - 2:30pm Ddydd Gwener 8 Mai 2009
Pwrpas y Gynhadledd Addysg Effeithiol yw cael ymarferwyr addysgol yng Nghymru i rannu a rhoi sylw i’w harferion. Trwy amrywiaeth eang o gyflwyniadau a gweithdai allweddol, bydd y cynadleddwyr yn edrych ar ddysgu ac addysgu effeithiol ac yn gallu ychwanegu at eu harferion presennol a’u datblygu.
Bydd y gynhadledd yn gyfle unigryw i ymarferwyr addysg o bob cyfnod a sector gydweithio er mwyn gwella deilliannau dysgu a lles yr holl ddysgwyr yng Nghymru.
Rhai o’r prif siaradwyr:
- Dr Art Costa - Prifysgol California
- Richard Parry Jones - Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru (ADEW)
- Dr Bill Maxwell - Prif Arolygydd Estyn
- Yr Athro Andrew Pollard - Rhaglen Ymchwil Addysgu a Dysgu (TLRP)
- John Griffiths - Y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau
- Mike Clancy - Yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (DCELLS)
Rhai o’r gweithdai:
- Arferion Meddwl Art Costa
- Addysgeg
- Y Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion
- Y Fframwaith Ansawdd ac Effeithiolrwydd
- Datblygu Meddwl ac Asesu ar gyfer Dysgu
- Addysg Ryngwladol
I gael rhagor o wybodaeth neu i gofrestru ar gyfer y gynhadledd, ffoniwch 0844 736 2651.
< nôl