
UK-wide
Yr Wythnos Addysg Oedolion yw gลตyl a dathliad mwyaf Prydain o addysg oedolion. Cydlynir yr Wythnos gan NIACE Dysgu Cymru gyda chyllid craidd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd. Mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn ymgyrch sy’n cyfuno hyrwyddiad cenedlaethol gyda gweithredu lleol. Mae’r ymgyrch yn rhoi cyfle i oedolion ddysgu rhywbeth newydd drwy roi cynnig ar un o’r cannoedd o sesiynau blasu rhad ac am ddim a gynhelir ledled Cymru yn ystod yr wythnos, a chyfle i ddarparwyr dysgu i arddangos eu darpariaeth. Os ydych chi’n darparu addysg oedolion, byddwch am fanteisio i’r eithaf ar ymgyrch Wythnos Addysg Oedolion drwy drefnu eich digwyddiadau arbennig eich hun.
http://niace.rcthosting.com/en/campaigndetail.asp?Section=12&Ref=2738