Addysgu a dysgu dwyieithog ar gyfer y Gymru gyfoes
Gwesty’r Metropole, LLANDRINDOD
30.04.09
9.30 – 15.00
Cynhelir y gynhadledd undydd hon i lansio DVD sy’n cyflwyno canfyddiadau prosiect ymchwil Dwyieithrwydd, Llythrennedd a Dysgu mewn Addysg Bellach. Bydd y gynhadledd hefyd yn gyfle i drafod addysg ddwyieithog yng Nghymru o ran:
- Newid economaidd a chymdeithasol a’r galw am sgiliau ar gyfer bywyd a gwaith yn y Gymru ddwyieithog gyfoes
- Yr her a’r cyfleoedd ar gyfer addysg Gymraeg a dwyieithog o fewn Llwybrau Dysgu 14 -19
- Strategaeth Addysg Gyfrwng Cymraeg Cenedlaethol
- Ymchwil ac addysg athrawon
Mae hon yn gynhadledd amserol iawn fydd yn cyfrannu at y drafodaeth ar ddatblygiad addysg ddwyieithog yng Nghymru a chyfraniad ymchwil addysgol i’r maes.
Bydd y gynhadledd o ddiddordeb arbennig i:
- reolwyr a swyddogion addysg;
- penaethiaid a llywodraethwyr ysgolion uwchradd;
- penaethiaid a llywodraethwyr colegau addysg bellach;
- penaethiaid prifysgolion;
- athrawon a darlithwyr pwnc;
- tiwtoriaid sgiliau sylfaenol;
- hyfforddwyr athrawon;
- byrddau arholi;
- ymgynghorwyr gyrfaoedd;
- cyflogwyr;
- ymchwilwyr addysgol a swyddogion polisi.
Ffi: £120 (yn cynnwys lluniaeth a chinio llawn).
Mwy o wybodaeth
< nôl