
Gofynnwyd i bob darparwr Dysgu Seiliedig ar Waith gwblhau a chyflwyno adroddiad hunan-asesu erbyn 30 Hydref 2009. Mae Ymlaen Ceredigion wedi’u penodi gan APADGOS i helpu i ddatblygu ADCDF mewn Dysgu Seiliedig ar Waith ymhellach. Bydd hyn yn cynnwys dadansoddi’r adroddiadau hunan-asesu i’w bwydo i mewn i adroddiad ar gyfer y sector cyfan y bydd APADGOS yn ei gyhoeddi ddechrau 2010 drwy wefan ADCDF. Bydd y dadansoddiad hwn yn tynnu sylw at themâu sy’n codi ac anghenion datblygu ar lefel sector, yn ogystal â nodi arferion da ac arloesol.
I gyd-fynd â’r hunan-asesiadau, bydd Ymlaen Ceredigion yn hwyluso nifer o rwydweithiau ledled Cymru, yn benodol ar gyfer darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith, a gaiff eu cynnal gan hwyluswyr arbenigol sydd â chyfoeth o brofiad yn ADCDF. Bydd y rhwydweithiau yn canolbwyntio ar y pecyn cymorth ac yn rhyngweithiol gan ymateb i anghenion darparwyr. Bydd yn gyfle da i gael gwybod mwy am ba feysydd o fewn ADCDF sy’n gweithio’n dda, a chydweithio i nodi strategaethau cyffredin i oresgyn rhwystrau.
I gael mwy o wybodaeth am y digwyddiadau sy’n digwydd yn y dyfodol agos, gweler yr e-daflen amgaeëdig.
Rhaid bwcio ymlaen llaw
Am ffurflen e-fwcio cysylltwch ag Iestyn Smith o Ymlaen Ceredigion nail ai ar y ffôn neu drwy e-bost:
Ffôn: 01970 633395 / 07812 366360 neu
E-bost: iestyns@ymlaenceredigion.org.uk