
• Roedd y Gwerth Ychwanegol Crynswth yn Ne-orllewin Cymru yn £10.0 biliwn yn 2004. Mae De-orllewin Cymru yn gartref i bron i 20,000 o fusnesau wedi'u cofrestru at ddibenion TAW ac mae yno weithlu o 280,000 o bobl.
• Roedd y GYC fesul pen y boblogaeth yn Ne-orllewin Cymru yn 2004, sef £11,600, yn 68 y cant o gyfartaledd y DU.
• Mae 500 o fusnesau wedi'u cofrestru at ddibenion TAW fesul 10,000 o'r boblogaeth oedran gweithio yn Ne-orllewin Cymru, o'i gymharu â 475 yng Nghymru a 519 yn y DU.
• Roedd y gyfradd ddiweithdra yn Ne-orllewin Cymru ar gyfer y flwyddyn tan fis Mawrth 2007, sef 5.4 y cant, yn debyg iawn i'r hyn yng Nghymru gyfan ac yn y DU (y ddau yn 5.3 y cant).
• Roedd y gyfradd gyflogaeth yn Ne-orllewin Cymru yn 69.9 y cant o'r boblogaeth oedran gweithio, ychydig yn is na'r cyfartaledd yng Nghymru (71.0 y cant) ac yn llawer is na'r cyfartaledd yn y DU (74.1 y cant).
• Roedd y sector gwasanaethu yn cyfrif am 79 y cant o'r swyddi yn Ne-orllewin Cymru yn 2005, ychydig yn uwch na'r ffigur yng Nghymru (77 y cant) ac yn is na'r cyfartaledd yn y DU (81 y cant).
• Roedd yr enillion cyfartalog llawnamser yn Ne-orllewin Cymru ym mis Ebrill 2007 yn £459.2 yr wythnos, yn is na'r £472.1 yng Nghymru gyfan ac 84 y cant o'r cyfartaledd yn y DU.
Ffynhonnel: StatsCymru