De-ddwyrain Cymru
- 1.43 miliwn yw poblogaeth ddiweddaraf y de-ddwyrain.
- Erbyn 2020 rhagwelir y bydd poblogaeth y de-ddwyrain 1.54 miliwn
- Yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2008 o’r 923 o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is yn y de-ddwyrain, mae 119 (13%) yn y 10% o ardaloedd o amddifadedd mwyaf yng Nghymru.
- Parhaodd 78 y cant o ddisgyblion blwyddyn 11 a allai adael ysgol yn 2008 mewn addysg llawn amser. Roedd 61 y cant o ddisgyblion blwyddyn 11 a barhaodd mewn addysg llawn amser wedi aros ymlaen yn yr ysgol tra bod 39 y cant wedi dewis parhau i flwyddyn 12 mewn coleg addysg bellach.
- Yn 2007 roedd gan 68 y cant o’r holl oedolion o oedran gweithio gymhwyster ar lefel 2 neu uwch, gyda 28 y cant ar lefel 4 neu uwch. Nid oes gan 15 y cant o’r boblogaeth oedran gweithio unrhyw gymwysterau.
Data economaidd
- Roedd Cyfanswm Gwerth Ychwanegol Crynswth y de-ddwyrain yn £20.0 biliwn yn 2006. Ddechrau 2008, roedd 32,615 o fusnesau wedi’u cofrestru ar gyfer TAW yn y de-ddwyrain ac yn 2007 roedd gan yr ardal weithlu o 652,600 o bobl. (Datganiad Gwerth Ychwanegol Crynswth (GYA) rhanbarthol ONS, Rhag 2008; Cofrestriadau a Datgofrestriadau ar gyfer TAW BERR 2007, Tach 2008; Cyflogaeth yn y Gweithle Llywodraeth Cynulliad Cymru, Gorff 2008)
- Ar £15,512, roedd GYC y pen o’r boblogaeth yn y de-ddwyrain yn 2006 yn cyfateb i 82 y cant o gyfartaledd y DU. (Datganiad Gwerth Ychwanegol Crynswth (GYA) rhanbarthol ONS, Rhag 2008).
- Roedd 371 o fusnesau wedi’u cofrestru ar gyfer TAW fesul 10,000 o boblogaeth oedran gweithio yn y de-ddwyrain, o gymharu â 486 ar gyfer Cymru a 536 ledled y DU, fel ar 1 Ionawr 2008. (Cofrestriadau a Datgofrestriadau ar gyfer TAW BERR 2007, Tach 2008).
Y Farchnad Lafur
- Ar 6.3 y cant, roedd cyfradd ddiweithdra’r Sefydliad Llafur Rhyngwladol yn y de-ddwyrain am y flwyddyn hyd at fis Medi 2008 yn uwch na’r gyfradd ar gyfer Cymru gyfan a’r DU (5.8 a 5.3 y cant yn ôl eu trefn (Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yr ONS)
- Yn y flwyddyn hyd at fis Medi 2008 roedd y gyfradd gyflogaeth yn y de-ddwyrain yn cyfateb i 70.3 y cant o’r boblogaeth oedran gweithio, ychydig yn is na chyfartaledd Cymru a llawer yn is na chyfartaledd y DU (71.3 a 74.4 y cant yn ôl eu trefn). (Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yr ONS, Mawrth 2009)
- Roedd 79 y cant o swyddi yn y de-ddwyrain yn 2006 yn perthyn i’r sector gwasanaeth, ychydig yn uwch na’r ffigur i Gymru (77 y cant) ond ychydig yn is na chyfartaledd y DU (81 y cant). (Cyflogaeth yn y Gweithle fesul diwydiant yng Nghymru, 2001 i 2006 Llywodraeth Cynulliad Cymru, Gorff 2008)
- £516.6 yr wythnos oedd cyfartaledd yr enillion llawn amser yn y de-ddwyrain ym mis Ebrill 2008, oedd yn uwch na’r £498.1 ar gyfer Cymru gyfan ac yn cyfateb i 90 y cant o gyfartaledd y DU. (Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion yr ONS, Tach 2008)
Ffynhonnel: StatsCymru