
Ymgymerwyd â thri dadansoddiad pellach o dri phrif Arolwg Sgiliau SDC er mwyn gwneud mwy o ddefnydd o’r cyfoeth o wybodaeth a gynhyrchwyd. Nod y dadansoddiadau ychwanegol yw trafod y materion sy’n ymwneud sy’n ymwneud â’r galw gan gyflogwyr ac unigolion am sgiliau mewn fformat a gynlluniwyd i’w ddefnyddio gan wneuthurwyr polisi, datblygwyr a darparwyr cwricwlwm. Gellir gweld yr adroddiadau isod.
Mae’r adroddiad hwn yn archwilio nodweddion cartrefi heb waith a phobl heb waith yng Nghymru. Mae’n mynd yn ei flaen i ystyried agweddau’r rhai sydd heb waith tuag at sgiliau a chymwysterau generig, ac mae’n edrych ar rai o’r goblygiadau sy’n deillio o hynny o ran polisi. Mae’r dadansoddiad yn defnyddio data o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth a Sgiliau Dyfodol Cymru 2003. Lle bo’n briodol, gwneir cymariaethau ag arolwg sgiliau 1998 hefyd.
Mae’r adroddiad hwn yn ymchwilio i’r berthynas rhwng sgiliau generig unigolion a lefel y cymwysterau sydd ganddynt. Ei nod yw archwilio i ba raddau y gall cymwysterau gymryd lle sgiliau, lle y gall y berthynas hon ddirywio, ac a yw’r cymwysterau’n ffordd effeithlon i ddatblygu’r mathau o sgiliau generig y mae cyflogwyr yn gofyn amdanynt.
Mae’r adroddiad yn tynnu ar amrywiaeth o ffynonellau er mwyn cyflawni’r amcanion hyn. Mae prif gorff yr adroddiad yn canolbwyntio ar ddadansoddi Arolwg Sgiliau Generig 2003 Sgiliau Dyfodol Cymru a hefyd yn tynnu ar yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth a’r adolygiad cynhwysfawr o lenyddiaeth academaidd berthnasol. Ysgrifennwyd yr adroddiad yng nghyd-destun y gydnabyddiaeth gynyddol o’r angen am sgiliau generig yn economi’r DU, fel y mynegwyd yn fwyaf diweddar yn Adolygiad Leitch o Sgiliau.
Mae’r adroddiad hwn yn archwilio ardaloedd o newid arwyddocaol yn yr angen am sgiliau a materion sy’n ymwneud â sgiliau rhwng y tri Arolwg o Gyflogwyr SDC Cymru Gyfan a gynhaliwyd ym 1998, 2003 a 2005. Rydym yn archwilio’r newidiadau mewn anawsterau recriwtio, diffyg sgiliau a darpariaeth hyfforddiant ymysg sefydliadau yng Nghymru dros amser ac a yw’r tueddiadau o ran anghenion sgiliau a materion sy’n ymwneud â sgiliau yng Nghymru rhwng 1998 a 2005 yn cael eu hadlewyrchu yn ngwledydd eraill y DU. Yn olaf, trafodir y goblygiadau i’r canlyniadau o ran polisi sy’n gysylltiedig â dysgu a sgiliau yng Nghymru.